Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

17.10.09

Clwb Cerdded y Mynydd Du

Beth well ar brynhawn heulog na mynd allan i gerdded - cael ymarfer corff ac awyr iach a mwynhau’r golygfeydd godidog sydd ar garreg y drws (bron!)
Prynhawn Dydd Iau, Medi’r 10fed, bu criw bach o Frynaman, o dan arweiniad Ian Wagstaff, yn cerdded rhan o’r Mynydd Du. Buont lan at Y Garreg Lwyd, draw i’r Foel Fraith yna at Gefn y Cylchau cyn dychwelyd uwchben yr Afon Clydach tuag at y Maes Parcio - taith a gymerodd ychydig dan 3 awr. Roedd hi’n bosib gweld gweld arfordir Gwlad yr Haf, Penrhyn Gwyr a Llanelli i un cyfeiriad a Mynyddoedd Carn Ingli a’r Preselau i gyfeiriad arall. Gwych!
Mae Clwb Cerdded y Mynydd Du yn trefnu teithiau cerdded o gylch yr ardal sy’n addas i bobl o bob gallu. Mae rhaglen o deithiau cerdded prynhawn 3-4 awr a theithiau cerdded dydd 5-6 awr ar gael.
Dyma’r teithiau nesaf fydd yn rhai 3-4 awr gan gwrdd yng Nghanolfan y Mynydd Du am 1 o’r gloch y prynhawn i drefnu ceir lle bo angen.
Hydref 22 : Cwm Pedol
Tachwedd 5 : Llyn y Fan Fach – Picws Du
Os hoffech chi ymuno a mynd ar rai o’r teithiau neu am fwy o wybodaeth yna cysylltwch ag Ian Wagstaff ar 01269-823949 neu Ganolofan y Mynydd Du ar 823400
.

No comments:

Help / Cymorth