Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

7.10.09

Llywydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru

Nos Fawrth, yr 8ed o Fedi yn Gymanfa Gyffredinol Eglwys Bresbyteridd Cymru ym Mhrifysgol Llanbedr- P o n t - S t e ffan daeth tymor y Parchg D. Haydn Thomas fel Llywydd i ben. Daeth llu o gyfeillion o Gaerdydd, Y Bari, o ardal Pumsaint a Chwrt y Cadno lle cychwynodd ei weinidogaeth 53 o flynyddoedd yn ôl at y cynrychiolwyr. Yn eu plith hefyd fel y disgwylid, roedd ei deulu a ffrindiau o Betws, gan mai brodor o’r Betws yw Haydn, roedd yn falch o gael eu cefnogaeth a’u cwmni.
Mae blwyddyn yn gorffen gydag Araith Ymadawol Y Llywydd. Yn ei araith diolchodd am pob cyfle a ddaeth i’w ran i wasanaethu ac i arwain yr enwad. Yn ei araith galwodd ar i Eglwys Bresbyteraidd Cymru i bwyso ar y Prif Weinidog i dynnu ein milwyr o Afghanistan. Trist yw gweld awyren yn dod i RAF St Lythan yn wythnosol yn dwyn adref cyrff bobl ifainc gan amddifadu gwragedd ifanc a phlant bach o briod a thad. Ni ellir cyfiawnhau hyn mwyach. Rhaid gwneud ein gorau mewn ffordd diplomataidd i setlo problemau terfysgaeth.
Ni fu’n bosib iddo gyflawni ambell ddyletswydd oherwydd afiechyd ei briod Doreen, ond mae’n fwriad ganddynt ymweld a Ta i wan yn 2010. Dymuniadau da a phob bendith i’r ddau ohonoch.

No comments:

Help / Cymorth