Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

6.10.09

Priodas Lowri ag Iestyn


Priodwyd Lowri Marie Nicholas a Iestyn John Williams yng nghapel Moreia, Tycroes, prynhawn Sadwrn, Gorffennaf 29ain. Gwasanaethwyd gan y Parchg Dyfrig Rees gyda Mrs Rhonwen Thomas wrth yr organ. Y gwas priodas oedd Iestyn Griffiths ac Eleri Williams, Maria Thomas, Aimee Barnett, Ffion Evans a Sioned Thomas oedd y morynion. Y forwyn fach oedd Mali Roberts gyda Chris Nicholas, Emyr Thomas, Rhodri Griffiths a
Mathew Rees yn dywyswyr. Cyflwynwyd yn ystod y gwasanaeth eitem gerddorol o’i chyfansoddiad gan Mrs Rhian Thomas, modryb Lowri.
Athrawes yw Lowri yn ôl ei galwedigaeth a Iestyn yn drydanwr. Y maent wedi ymgartrefu yng Ngolwg y Mynydd, Y Betws. Dymuniadau da i’r pâr ifanc.

No comments:

Help / Cymorth