Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

22.10.09

Noddfa

Nos Iau 3ydd Medi cynhaliwyd Cyrddau blynyddol y Cwrdd Sanana yng Nghapel Noddfa. Cawsom alwad i addoli gan y Parchg Mary Davies. Mrs Menna Jones oedd yn gyfrifol am y rhannau arweiniol. Rhoddwyd gair o groeso i bawb gan Mrs Ann Thomas. Darllennodd Miss Aerona Jones y cofnodion a rhestr yr eglwysi. Wedi adroddiad gan y trysorydd, Mrs Heulwen Rees, cawsom eitem gan Gôr y Chwiorydd. Y Parchg Mary Davies oedd yn coffau y galarwyr a Mrs Relda Edwards a Mrs Margaret Rees oedd yn gyfrifol am y casglyddion.
Galwodd y Llywydd, Y Parchg Mary Davies, ar y darpar Lywydd Mrs Ivy Hopkins i wisgo’r bathodyn a llofnodi’r Beibl. Adroddodd Mrs Ann Thomas ychydig o hanes Ivy ac offrymu’r Urdd Weddi.
Cawsom anerchiad pwpasol gan Y Parchg Mary Davies. Cyflwynwyd y diolchiadau ar ran Noddfa gan Mrs Mary Prescott. Yr Organyddes oedd Mrs Davina Evans.

No comments:

Help / Cymorth