22.11.09

Diolchgarwch

Cafwyd Cwrdd Diolchgarwch arbennig ar Fore Sul, y 18fed o Hydref yng Nghapel Bethel Newydd gyda’r capel wedi cael ei addurno mor brydferth, yn llawn blodau, llysiau a ffrwythau. Roedd y mwyafrif o’r bobl ifanc a gymrodd rhan newydd gael eu derbyn yn aelodau o’r capel, ac yn cynnwys Ffion Hâf, Caryl, Catrin, Ceris, Cari, Angharad a Hywel. Cawsom ddarlleniadau grymus o’r Beibl, gweddïau, adroddiadau a storiau gafaelgar iawn. Hefyd cawsom ddeuawd hyfryd gan y brawd a’r chwaer, Ffion Hâf a Hywel a datganiad ar y piano gan Hywel. Hyfryd oedd canu emynau a oedd yn gweddu i ddiolch am y Cynhaeaf. Mwynhawyd y datganiadau gan bawb oedd yn bresennol ac roeddent, wrth gofio’r tlawd a’r anghenus, yn gwneud i ni sylweddoli pa mor freintiedig yr ydym yn ein gwlad fach ni gyda’r cyfoeth sydd gennym o’i gymharu â’n cyfoedion anffodus yn y Trydydd Byd. Mae ein diolch i Miss Meinir Jones a Mrs Diana Mackey am baratoi’r rhaglen ac i Mrs Olwen Richards am fod wrth yr organ. Diolchwyd i bawb a gymerodd rhan gan ein Parchus Weinidog, Gwyndaf Jones, ac fe gafwyd gweddi bwrpasol i gloi gwasanaeth a fydd yn aros yn hir yn y côf.

0 comments:

Help / Cymorth