Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

22.11.09

Eisteddfod Calfaria Garnant

Bu Eisteddfod Calfaria eleni yn lwyddiant mawr eto a daeth llu o blant Ysgol y Bedol i gystadlu ar y canu, adrodd a chwarae offerynnau yn yr adran leol. Hefyd cafwyd cystadleuwyr o wahanol gyrrau o dde Cymru yn cystadlu ar yr eitemau agored a mawr oedd clod y beirniaid am y safon uchel a gynhaliwyd ganddynt. Y Beirniad Cerdd oedd Mrs Davida Lewis, Waunarlwydd, gyda Mrs Jane Cousins ar yr adrodd a Mrs Gloria Lloyd yn gyfeilydd. Yn arwain oedd Mr John Williams, y Garnant, a dymuna’r pwyllgor gydnabod pawb oedd wedi cyfrannu yn dda tuag at yr achlysur arbennig hwn. Mae’r Eisteddfod yn mynd yn ei flaen ers sawl blwyddyn bellach a pharhaed yr Eisteddfod i fod yr un mor llewyrchus am flynyddoedd lawer i ddod.
Enillwyr y raffl oedd: Yn Gyntaf, Mair Howells, Glanaman; Yn Ail, Mrs Boyle, Heol Felin; Yn Drydydd, Rhiannon Cousins, Tycroes ac Yn Bedwerydd, Betty Lee, Garnant.

No comments:

Help / Cymorth