27.11.09

Ysgol Dyffryn Aman yn Dathlu Diwrnod T. Llew Jones -

Diwrnod i'w gofio brenin Llen Cymru oedd hi ar y nawfed o Hydref mewn sawl ysgol ledled Cymru. Yn Ysgol Dyffryn Aman cynhaliwyd cwis gan Edwyn Williams a threfnwyd ar y cyd a'r Llyfrgell bod Llio Silyn yn dod i ddifyrru'r plant drwy adrodd rai o'i straeon.
Yn ogystal mae'r Adran gelf, dan ofal Steffan Ebbsworth wedi bod wrthi ers rhai wythnosau yn creu murlun o'i straeon a'i gerddi. Bu'n ddiwrnod hwylus a difyr a'r plant wedi elwa o gofio a dysgu am un o arwyr ein llen.

0 comments:

Help / Cymorth