Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

29.12.09

Dathlu Canmlwyddiant Eglwys Hermon


Ar ben wythnos 7fed ar 8fed o Dachwedd 2009, dathlwyd Hermon Capel yr Annibynwyr, Brynaman Isaf, canmlwyddiant yr Eglwys.
Roedd yn hyfrydwch ein bod yn gallu croesawu cyd-gristnogion i’r oedfa, ynghyd a ffrindiau a chyn aelodau a oedd wedi gwneud yr ymdrech i ddod yn ôl i’w hen gynefin.
Cyfeiriodd ein llywydd anrhydeddus, Y Parchedig Athro Maurice Loader, BA BD Caerfyrddin un o gyn Weinidogion y capel, ein bod yn ffodus o gael cwmni Mrs Delora Morris, Porthcawl, wyres ein gweinidog cyntaf, sef y Prifardd Parchedig Alfa Richards.
Roedd y dathliad ei hun ar brynhawn Sadwrn y 7fed o Dachwedd am 1.30yp. Ar ôl gair o groeso gan y llywydd, dechreuodd y gwasanaeth pan offrymwyd yr Alwad i Addoli gan Ficer Brynaman, Y Parchedig Adrian Teale. Darllenwyd o’r Ysgrythur gan y Parchedig Peter Harris Davies a offrymwyd y weddi gan y Parchedig Ryan Isaac Thomas. Roeddent wedi creu awyrgylch dwys a bendithiol i’r oedfa.
Ar ôl derbyn yr offrwm, cawsom cyfarchion twymgalon a hwylus oddi wrth Gapeli ac Eglwys Brynaman. Yn cynrychioli Capel Bethania oedd Mrs Thelma Jones; Ebenezer - Mrs Anita Humphries; Gibea- Miss Mair Thomas; Moriah - Mr Glynog Davies; Siloam - Mr Brian Humphries ag Eglwys Santes Gatrin - Y Parchedig Adrian Teale.
Cawsom gyflwyniad ar lafar ac ar gan o hanes yr Eglwys. Mae’n dyled ni’n fawr, a diolchwn o galon i Mrs Glenys Kim Protheroe am greu Cyflwyniad o safon am ganrif Eglwys mor fyth gofiadwy, a chael ei chynorthwyo gan Mr Walford Morris ar y gerddoriaeth.
Wedi terfyn y Cyflwyniad, ag yng ngeiriau’r llywydd Parchedig Maurice Loader “Nid wyf wedi mwynhau fy hun gymaint erioed a phrynhawn yma, ‘ydych yn flaenllaw i Gapeli ag Eglwysi i’ch dilyn sut i ddathlu” - bythgofiadwy.
Wedi’r oedfa prynhawn Sadwrn, roedd Te’r Dathlu [a gwledd roedd hi] wedi ei pharatoi yn Neuadd Gymuned Gwaun Cae Gurwen gan Mrs Eryl Morris a hithau yn cael ei chynorthwyo gan Mrs Pamela Probert. Roedd yno deisen y canmlwyddiant wedi ei gwneud gan Mrs Pamela Davies. Rhoddwyd yr anrhydedd o’i thorri i Mrs Ethel Davies, gwraig sydd a’i gwreiddiau yn ddwfn yn Hermon. Dyma'r lle y bedyddiwyd ac mae yn dal i fynychi’r cyfarfodydd pan mae’r iechyd yn caniatâi, a hithau yn eu nawdegau. Rhoddwyd y deisen gan Mr a Mrs Ken Davies.

No comments:

Help / Cymorth