Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

11.1.10

BLEDDYN JONES - Y TEIGR O’R GWTER FAWR


“Dau o bentrefi mwya’ diwylliannol Cymru.” Dyna oedd barn llawer am Frynaman a Rhosllanerchrugog yn ystod y ganrif ddiwetha’ diolch i frwdfrydedd, arbenigedd ac egni nifer fawr o gymdeithasau mewn ystod eang o weithgareddau. Ond rhaid cofio fod pentre’r Gwter Fawr wedi cynhyrchu mawrion ym myd y bêl hirgron a nifer wedi llwyddo ar y lefel ucha’. Roedd Jac Elwyn Evans o Dai Canon yn asgellwr chwimwth yn y dauddegau – chwaraeodd i Lanelli yn erbyn Seland Newydd ar y Strade ym 1924 cyn ennill ei unig gap i Gymru yn erbyn yr Alban yng Nghaeredin. Roedd Clem Thomas o Hewl Stesion yn gapten ar ei wlad yn y pumdegau, yn aelod o dîm y Llewod yn Ne Affrica ym 1955 ac wedi’i anfarwoli yn sgîl y gic i gôl Ken Jones adeg buddugoliaeth Cymru yn erbyn Seland Newydd ym 1953. Chwaraeodd Gerwyn Rees a John Elgar Williams mewn profion cenedlaethol ond mae yna un arall sy’n haeddu’i gynnwys yn oriel anfarwolion y Gwter Fawr yn sgîl ei befformiadau graenus i deigrod Caerlŷr yn y saithdegau.
O’r cychwyn cynta’ roedd Bleddyn Jones o Hewl Cwmgarw yn chwaraewr rygbi greddfol ond rhywsut heb argyhoeddi yn ystod dyddiau ysgol. Roedd hi’n amlwg i bawb ei fod e’n meddu ar yr holl sgiliau; ei gydbwysedd yn ei wneud e’n anodd i’w ddal, ro’dd e’n basiwr clasurol, yn daclwr di-ofn, yn giciwr deche, yn gyflym dros y llathenni cynta’ ac yn unigolyn oedd yn llwyddo i ddod â’r gore mas o’i gyd-chwaraewyr. Ar ôl cyfnod llwyddiannus yng Ngholeg Abertawe lle daeth o dan ddylanwad Mervyn Davies, penodwyd Bleddyn yn athro cynradd yng nghanol Caerlŷr ac yno gwnaeth ei farc fel chwaraewr o wir safon.
Mae yna barch aruthrol i Bleddyn ym Mrynaman – yn gymeriad swil ar adegau ond yn boblogaidd a chwbl diymhongar. Yn ystod ei ddyddiau cynta’ yng Nghaerlŷr, treuliodd gyfnod yn lletya yn yr YMCA lleol a sylwi un noson fod yna griw wrthi’n ymarfer a pharatoi ar gyfer y tymor newydd ar barc cyfagos. Ymunodd â nhw heb sylweddoli mai chwaraewyr tîm Caerlyr oedd wrthi’n mynd trwy’i pethe. O fewn dim o beth, derbyniodd wahoddiad i ymuno â’r clwb a rhai wythnosau’n ddiweddarach fe chwaraeodd ei gêm gynta’ yn erbyn Wilmslow o Ogledd Lloegr. Un arall a oedd yn chwarae i Gaerlŷr am y tro cynta’ y prynhawn hwnnw oedd y blaenasgellwr a gynrychiolodd yr Alban a’r Llewod, Roger Arneil.
Fe chwaraeodd Bleddyn 333 o gemau i Gaerlŷr a phrofi’i hun yn chwaraewr dylanwadol a dibynadwy. Pan ymunodd maswr Lloegr Alan Old â Chaerlŷr roedd rhai yn meddwl y byddai Bleddyn yn gorfod ildio’i le ond nid felly. Gofynnwyd i Old ‘ware fel canolwr! Cynrychiolodd Daleithiau Canolbarth Lloegr yn erbyn Seland Newydd ym 1973 a gorffen ei yrfa yn Twickenham ym 1978 yn erbyn yr Harlequins. Mae geiriau Peter Wheeler, cyn fachwr Lloegr a’r Llewod yn crisialu pob dim am y Cymro, “Without question, one of the most skilful and loyal players to have worn the Leicester jersey.”
Yn ddiweddar, gofynnwyd i gefnogwyr y clwb, y Cyngor lleol a phapur y Leicester Mercury, i enwi’r tîm gorau sy wedi cynrychioli Caerlyr. Yn dilyn yr arolwg, dadorchuddiwyd yr enwau yng nghrombil yr eisteddle newydd sbon – “The Caterpillar Stand – Walk of Legends”. Yno, mewn llythrennau bras mae enwau’r pymtheg - a’r crwt o Frynaman yn drech na Joel Stransky, Andy Goode a Les Cusworth ac yn gwmni i rai o hoelion wyth byd rygbi’r byd. Cliff Morgan a Barry John oedd arwyr Bleddyn ond rhaid cofio ei fod e hefyd drwy benderfyniad a dyfal barhad wedi cyrraedd yr uchelfannau. Dyma’r tîm a ddewiswyd :

15 Dusty HARE 14 Rory UNDERWOOD 13 Paul DODGE
12 Clive WOODWARD 11 John DUGGAN 10 Bleddyn JONES
9 Austin HEALEY 1 Grahan ROWNTREE 2 Peter WHEELER
3 Steve REDFERN 4 Martin JOHNSON 5 Matt POOLE
6 Graham WILLARS 8 Dean RICHARDS 7 David MATTHEWS

Yn dilyn ei ymddeoliad, manteisiodd BBC Radio Caerlyr ar ei wasanaeth ac am chwarter canrif mae e wedi bod wrthi’n darlledu i wrandawyr ardal Caerlyr ar gemau’r Teigrod yn ogystal â hynt a helynt tîm Lloegr. Yn sicr, mae yna werthfawrogiad mawr i sylwadau craff a gwybodaeth eang y gŵr o’r Gwter Fawr.

No comments:

Help / Cymorth