Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

31.1.10

CYLCH CINIO CYMRAEG RHYDAMAN

Cynhaliwyd Cinio Nadolig Cylch Cinio Cymraeg Rhydaman yng ngwesty’r Hudd Gwyn, Llandeilo Nos Iau, Rhagfyr 3ydd o dan lywyddiaeth yr is-lywydd, Calvin Davies, Rhydaman. Ef a groesawodd y chwiorydd a’r ffrindiau a ddaeth ynghyd ar yr achlysur arbennig hwn ac fe ddymunodd gwellhad llwyr a buan i Mrs. Eirlys Williams, priod Hefin ein trysorydd, sydd wedi cael llaw-driniaeth yn Ysbyty Treforys ar ôl damwain yn Llanelli yn ddiweddar. Hefyd llongyfarchodd Dafydd Wyn, Glanaman ar ennill gwobr ddylanwadol John Trott am gyfansoddi a chyflwyno ei farddoniaeth.

Fel y dywedodd y llywydd cafwyd dwy wledd y noson hon – arlwy blasus gan staff yr Hudd Gwyn ac yna gwledd o ganu gan ein gwesteion sef côr amryddawn Lleisiau’r Cwm o dan arweiniad Catrin Hughes, eu cyfarwyddwr cerdd, ynghyd â’u hunawdwyr, Eirlys Myfanwy, Pontyberem a Mair Wyn, Glanaman. Cyflwynwyd yr eitemau mewn ffordd hwylus dros ben gan Heddyr Gregory ac fel y dywedodd Arnallt James, Y Betws, ein darpar is-lywydd, wrth ddiolch, noson arbennig iawn.

Mae’r flwyddyn 2010 yn flwyddyn bwysig yn hanes y Cylch Cinio oherwydd fe fyddwn yn dathlu deugain mlynedd ers ei sefydlu gan y Parch. Ronald Walters ar ôl ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â’r dref yn 1970.

No comments:

Help / Cymorth