28.1.10

Pensiynwyr y Pentref yn Dathlu’r Nadolig

Mrs. Margaret Davies, Llywydd y Pensiynwyr ynghyd â
Mr. Lyn Griffiths, Cadeirydd Cyngor Cymuned Llanedi


Cynhaliwyd Cinio Nadolig yr Adran eleni eto yn yr Hudd Gwyn, Llandeilo. Mrs. Margaret Davies, Llywydd yr Adran oedd yn gyfrifol am arwain y gweithgareddau. Offrymwyd gras bwyd gan Mr. Stephen Essery, un o’r gwesteion, cyn mwynhau pryd blasus o fwyd yn ôl yr arfer yn yr Hudd Gwyn.
Cyflwynodd y Llywydd y gwesteion sef Mr. Stephen a Mrs. Ruth Essery, Mr. Raymond a Mrs. Eirwen Thomas a Mr. Lyn Griffiths, Cadeirydd Cyngor Cymuned Llanedi. Cafwyd ganddo ychydig eiriau pwrpasol a chyflwynodd rhodd ariannol i’r Adran ar ran y Cyngor Cymuned. Cafwyd gair hefyd gan Mr. Stephen Essery yn ei ffordd arbennig ei hun. Bu nifer mawr o’r aelodau yn lwcus gyda’r raffl – rhoddion oddi wrth aelodau’r adran a busnesau lleol. Diolchwyd iddynt am eu haelioni eleni eto.
Yna cynhaliwyd gwasanaeth carolau – naw llith a charol – yn Eglwys Sant Edmwnd, Tycroes. Roedd y gwasanaeth o dan arweiniad y Parch. Baxter, yr Offeiriad yng ngofal eglwysi Tycroes, Llanedi a Saron. Cyflwynwyd y llithoedd gan aelodau’r adran. Mrs. Eirwen Thomas oedd wrth yr organ. Wedi’r oedfa ymlwybrodd pawb i neuadd y pentre i fwynhau te blasus.

0 comments:

Help / Cymorth