Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

7.2.10

Menter Ieuenctid Cristnogol (Sir Gâr)


Ym mis Medi eleni ffurfiwyd Menter Ieuenctid Cristnogol (M.I.C.) mewn ymateb i ddymuniad gan eglwysi anghydffurfiol sir Gaerfyrddin am gefnogaeth i ddatblygu gwaith ymhlith plant ac ieuenctid. Prif nod y Fenter newydd yw hybu tystiolaeth yr efengyl ymysg yr ifanc a hynny mewn ffyrdd cyfoes a pherthnasol ar gyfer ein hoes.
Yn ddiweddar, trefnwyd cwis Beiblaidd ar gyfer plant ac ieuenctid sir Gaerfyrddin gyda rowndiau rhagbrofol yn arwain fyny at rownd derfynol. Mewn cyfnod pan fod gwybodaeth Feiblaidd yn rhinwedd prin yn ein cymdeithas, mor wych oedd hi i weld plant a phobl ifanc ar draws yr ystod oedran o 6 i 17 oed yn cymryd rhan gyda brwdfrydedd. Defnyddiwyd yr offer diweddara gan gynnwys PowerPoint, bysyrs electronig a meicroffonau gan roi delwedd broffesiynol a chyfoes i’r achlysur.


Yn y rownd derfynol trefnwyd y cwis ar ffurf y rhaglen deledu boblogaidd, “Who Wants To Be A Millionaire?” Cafwyd cystadleuaeth ddifyr a hynod o gyffrous, heb sôn am y tensiwn, wrth i rai timoedd gyrraedd lefel uchel ac wrth i’r ffôn symudol gael ei ddefnyddio i ymgynghori gyda nifer i ffrind.
Yn cymryd rhan yn y rownd derfynol oed cynradd oedd: Providence, Llangadog (Dwyrain sir Gâr), Clwb Hwyl Hwyr, Rhydaman (Dwyrain sir Gâr), Clwb Plant Y Brenin, Caerfyrddin (Gorllewin sir Gâr), Ysgol Sul Hermon (Gorllewin sir Gâr). Yn cymryd rhan yn y rownd derfynol oed uwchradd oedd: Calfaria, Penygroes (Dwyrain sir Gâr), Clwb Hwyl Hwyr, Rhydaman (Dwyrain sir Gâr), Penuel, Caerfyrddin (Gorllewin sir Gâr), Y Babell, Pensarn (Gorllewin sir Gâr)
Cael hwyl wrth gymryd rhan oedd y peth mawr, ond yn sgìl hynny, mae`n amlwg bod y plant a’r bobl ifanc wedi dysgu llawer, a gobeithio magu blas tuag at Air Duw.

Daeth tim Clwb Hwyl Hwyr, Rhydaman yn ail yn oedran Uwchradd.

Cyflwynwyd gwobr i bawb wnaeth gymryd rhan yn y cwis gyda thlysau sialens a thlysau unigol i’r timoedd hynny wnaeth gyrraedd y brig.


Dymuna M.I.C. nodi gwerthfawrogiad o`r defnydd a gafwyd o’r capel a’r festri yn Y Priordy, Caerfyrddin dros ddwy noson ac o garedigrwydd chwiorydd y capel i ddarparu lluniaeth ar gyfer y timoedd. Diolch hefyd i’r Cyngor Ysgolion Sul am y defnydd o’r bysyrs electronig ac i llogioffer.com am ddarparu’r meicroffonau a’r sytem sain. Y fenter nesaf a drefnir gan M.I.C bydd gwersyll i blant blynyddoedd 4-7 yn ystod hanner tymor, sef Chwefror 15fed - 17eg 2010. Am fanylion pellach neu ffurflen gofrestru cysylltwch â Nigel Davies ar (01994)230049 neu e-bost mic@uwclub.net

No comments:

Help / Cymorth