Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

7.2.10

Y Blygain yn Hen Fethel

Daeth y llu arferol ynghyd am 6.30 am ar Fore Nadolig, fel y gwnaethant am bron i ddwy ganrif a hanner, i ddathlu gwir ysbryd yr Wyl. Cafwyd naws arbennig yng ngolau’r canhwyllau gyda phawb a ddymunai yn cyfrannu gyda gweddïau, darlleniadau, barddoniaeth ac ar gân.
Diolchodd Linden Evans, yr Arweinydd, i’r rhai a fu’n brysur er mwyn gwneud yr achlysur hwn yn bosib eleni eto, gan gynnwys Emyr Jenkins a dreuliodd oriau lawer yn atgyweirio un o’r grisiau, yn rhoi cloion newydd ar y drysau a chryfhau’r llawr mewn mannau. Gwnaeth Huw Jenkins wirfoddoli i gynnau’r tânau i gynhesu’r Capel, bu Dafydd Wyn yng ngofal tywys y ceir drwy’r fynwent a rhoddwyd y glo yn ôl eu harfer gan y Brodyr Thomas, a’r coed tân gan gwmni T. Richard Jones.
Aeth Linden Evans ymlaen i ddweud bod y Blygain yn Hen Fethel bellach yn y fantol os na cheir Pwyllgor Cyhoeddus i’w rhedeg. Diolchodd i ddiaconiaid Bethel Newydd a’r ymddiriedolwyr eraill am y gwaith da a wnaethant dros y blynyddoedd ond roeddent hwy yn teimlo eu bod yn mynd yn rhy hen bellach i ofalu am y Capel a’r Fynwent a hoffent drosglwyddo’r cyfrifoldebau hyn i Ymddiriedolaeth Gyhoeddus. Mae Cyngor Cwmaman wedi cytuno gwneud Arolwg o’r Capel a’r Fynwent ac yna byddant yn ceisio ffurfio Pwyllgor Cyhoeddus mewn Cyfarfod a gynhelir ym mis Chwefror. Dywedodd Linden fod dyfodol y Capel a’r Blygain bellach yn dibynnu ar ein cefnogaeth ni a daeth chwech person ato i gynnig helpu. Os nad ydych wedi cysylltu eisoes â Linden ond yn fodlon ystyried bod ar y Pwyllgor hwn, plis rhowch wybod i David Davies, Clerc y Cyngor, drwy ei ffônio ar 07971 026493 neu ei e-bostio ar daidoc@yahoo.co.uk ac yna cewch wahoddiad personol i’r cyfarfod ym mis Chwefror lle cewch wybodaeth pellach am yr Arolwg ar gyflwr y Capel a’r Fynwent ac esboniad llawn o’r hyn a ddisgwylir gennych cyn eich bod yn dod i benderfyniad.

No comments:

Help / Cymorth