Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

21.3.10

NEUADD BRYNAMAN - Yma o Hyd

Brian Harries - rheolwr sydd newydd ymddeol

Tua chan mlynedd yn ôl mynnai'r Pwyllgor a oedd yn Neuadd Gyhoeddus Brynaman bryd hynny mai dyma'r neuadd orau yn yr ardal, un yn siwtio pawb, heb yr un neuadd arall a allai gystadlu a hi. A dyna yw'r farn am y neuadd sydd yma heddi – mae hi'n werth ei gweld, fel y ffilmiau mwyaf diweddar a ddangosir ynddi bob wythnos. Ac mae llawer o'r diolch am hyn yn ddyledus i Mr Brian Harries y Rheolwr sy' newydd ymddeol, i'r pwyllgorau a'r gwirfoddolwyr a fu wrthi ar hyd yr amser, pobl fel Harri Jones, Heulwyn Morgan a Moc Leonard i enwi tri yn unig o'r ffyddloniaid – a choffa da am y tri yma.

Wedi hen ysgol yr Amman Works gael ei gwerthu i Fwrdd Llandeilo Fawr (am £1200) cyflwynodd George B. Strick £700 i bobl yr ardal ar gyfer adeiladu Neuadd Gyhoeddus ym Mrynaman. Ac yn ol Carmarthen Journal 1898 roedd llawer o waith wedi ei wneud ar yr adeilad (o goed a sinc) erbyn hynny –"and it is hoped an interesting programme will be provided for the young men of the village to keep them off the streets where they are only doing mischief"!
Rhyw ergyd carreg o'r lle'r oedd y Neuadd gyntaf honno, ar y 13eg o Ragfyr 1914, ar Hewl Stesion codwyd yr Alpha – "the enemy" yn ôl cefnogwyr y llall! Bu llawer o ddyfalu a chwestiynu pan ddigwyddodd tan mawr yn y Neuadd Gyhoeddus, a hynny flwyddyn union, ymron i'r diwrnod, 15fed o Ragfyr 1915, ers pan agorwyd yr Alpha. Hyd heddiw does neb yn gwybod beth oedd achos y tan hwnnw. Roedd yr Alpha'n boblogaidd iawn, a'r nosweithiau amrywiol yno'n denu pobl o'r ardaloedd cyfagos.
Wedi'r tan, ar Fedi'r 6ed 1916 galwyd cyfarfod cyhoeddus yn Ysgol Brynaman Uchaf i drafod cynlluniau posibl ar gyfer adeiladu Neuadd Gyhoeddus newydd, a dechrau Cronfa ar gyfer y gwaith. Ond ni ddigwyddodd fawr o ddim tan 1922 pan soniwyd y byddai neuadd fawr fodern yn costio rhyw £10,000.
Ym mis Mawrth 1926 cafodd y neuadd newydd rodd o lyfrau ar gyfer sefydlu Llyfrgell ynddi, ac ymgeisiodd 21 o bobl am swydd y llyfrgellydd. David Jones, Pant-ycelyn oedd y dewis poblogaidd, i ddechrau ar Fai'r 10fed. Roedd y neuadd newydd i'w hagor ymhen yr wythnos, y 15fed o Fai 1926 – sef blwyddyn y Streic Fawr oedd i barhau am saith mis. Bu'r gweithgaredd yno yn fuddiol ac amrywiol, yn gyngherddau, darlithiau, ymarferion corau, dawns a bandiau a phwyllgorau ag ati.
Ond yn 1927 daeth rhyfeddod y ffilmiau sain "byw", a bu galw am offer newydd a drud. Gosodwyd y Neuadd ar Lês a rhent o £13 yr wythnos. Gwr o Abertawe, Oscar Dennis, oedd y cyntaf i ddod a ffilmiau i'r Neuadd, am bum noson yr wythnos gan adael nos Fercher i'r Pwyllgor. Pan orffennodd Oscar Dennis yn 1936 penderfynodd y Pwyllgor ymgymryd a'r gwaith o drefnu a chynnal y Neuadd. A dyna fel y bu, ar wahan i gyfnod byr dan ofal y West of England Cinema Company.
Pan dorrodd yr Ail Ryfel Byd allan, Medi'r 3ydd 1939, 'roedd hi'n ofynnol i bob man cyhoeddus gau'r drysau, ond ar y 14eg o'r mis fe ail-agorwyd Neuadd Gyhoeddus Brynaman a'i chadw ar agor trwy gydol y Rhyfel.
Ac ar agor y bu'r Neuadd, "Hall Brynaman", ers hynny, diolch i'r Rheolwr a'r timau o wirfoddolwyr a fu'n rhoi o'u hamser bob nos am bob wythnos yn gyson. Bu'r Neuadd o fudd amhrisiadwy i'r gymuned, i'r ysgolion a'u cyngherddau, yr Urdd a'r capeli a'u heisteddfodau, i'r cwmniau drama a'r operau enwog a phoblogaidd. Cafodd talentau lleol a phroffesiynol y cyfle i serennu ar lwyfan Brynaman. 0'r pwys mwyaf y dylid ei chadw ar agor

No comments:

Help / Cymorth