Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

1.3.10

Y Tabernacl, Cwmgors

Roedd gwasanaeth prynhawn Sul 17eg o Ionawr yn nodedig am fwy nag un rheswm. Yn y lle cyntaf, roeddem yn falch i ddod at ein gilydd am y tro cyntaf ers cyn y Nadolig – ni fu’n bosib cynnal gwasanaethau yn ystod y tywydd rhewllyd diweddar.

Ond er ein bod yn falch i allu cynnal gwasanaeth o’r diwedd, trist oedd meddwl mai hwn oedd gwasanaeth olaf y Parchedig Gwyndaf Jones fel ein Gweinidog. Er mai dim ond am gyfnod byr mae Mr Jones wedi bod yn weinidog ar y Tabernacl, mae wedi bod yn weinidog ar ein mam eglwys, Carmel, Gwaun-Cae-Gurwen am dros 30 o flynyddoedd. Yn ystod yr amser yma yr ydym wedi dod yn gyfarwydd iawn â Mr Jones ac wedi dod i’w adnabod fel ffrind da i’r Tabernacl. Mae wedi bod yn gymorth i ni ar nifer o achlysuron. Diolch yn fawr Mr Jones, a phob dymuniad da ar eich ymddeoliad.

Yn ystod ei wasanaeth olaf yn ein plith derbyniodd Mr Jones ddau o blant yr Eglwys, Kathryn Thomas ac Owain ei brawd, yn gyflawn aelodau. Mae Kathryn yn gweithio fel therapydd galwedigaethol yn ardal Castell-nedd Port Talbot ac y mae Owain yn astudio Cerddoriaeth ym mhrifysgol Bangor. Mae teulu Kathryn ac Owain wedi bod yn aelodau yn y Tabernacl ers dechrau’r achos dros ganrif yn ôl: braf iawn oedd cael croesawu dau arall o’r teulu yn aelodau.

No comments:

Help / Cymorth