Llongyfarchiadau oddi wrth holl drigolion Brynaman i Mrs Mairlynne Davies, Machynlleth (ond brodor o Frynaman) a dderbyniodd blât Halen y Ddaear a thusw o flodau gan Alwyn Humphreys yn ddiweddar.
Gwelwyd y digwyddiad ar raglen Wedi 3 ar Ebrill 5ed - gyda’r syrpreis yn torri ar draws cyfarfod o Gylch Llenyddol Bro Ddyfi. Mairlynne yw ysgrifenyddes y cylch ers 10 mlynedd ac mae hefyd yn ysgrifenyddes Capel y Graig. Cyfeiriodd ei gweinidog, y Parchg W. J. Edwards ati fel “Rhodd Sir Gâr i Fachynlleth”, tra soniodd ei ffrind, Mary Price, am ei gwaith fel aelod ffyddlon a chyn-ysgrifenyddes a chyn-lywydd y gangen leol o Ferched y Wawr. Mae Mairlynne a’i gwr John (sydd hefyd yn frodor o Frynaman) wedi ymgartrefu yn ardal Machynlleth ers dros 40 mlynedd ond maent yn cadw cysylltiad a nifer o bobl Brynaman o hyd ac maent yn ymwelwyr cyson yma.
No comments:
Post a Comment