Dros y misoedd diwethaf y mae Llais-yr Andes, Caerffynnon, Llandybie, sef cartref Mr Parry a Mrs Hazel Charles Thomas, wedi bod yn breswylfa groesawgar i nifer o ymwelwyr diddorol ac ysbrydoledig o’r Wladfa ym Mhatagonia. Dros y misoedd nesaf bwriedir rhoi tipyn o gefndir a hanes yr ymwelwyr yna o hemisffer y De.
Y cytnaf i ymweld oedd y Fns Rachel Davies Butrick sy’n hannu o ardal Bryn Crwn yn Nyffryn Camwy. Er iddi gael ei geni a’i magu yno, symudodd hithau’n ferch fach i’r U.D.A lle bu’n gweithio i’r Cyngor Prydeinig yn Washington. Pan ddigwyddodd y drychineb o chwalu’r Efeilliaid, y “Twin Towers”, Rachel oedd yr un a wahoddwyd i roi adroddiad o’r hyn oedd wedi cymryd lle, a hynny yn y Gymraeg. Nid hwnnw oedd y tro cyntaf iddi gael ei galw i’r stiwdio deledu yn y brif ddinas. Er bod nifer o Gymry Cymraeg yn byw yn Washington, mae’n amlwg mai gan y ddynes o’r Wladfa y clywir yr iaith ar ei gorau.
Yn ystod ei hymweliad â Llandybie, ei dymuniad pennaf oedd cael mynd i Bantycelyn gan iddi ganu emynau William Williams ar hyd ei hoes. Bydd galw mawr am ei gwasanaeth yng nghapeli’r Dyffryn gan ei bod yn bencampwraig ar yr organ.
Gan na chafodd Rachel gyfle i ymweld â Bethlehem yng ngwlad yr Iesu, daeth cyfle iddi dynd i Fethelehem, Llangadog a thynnwyd ei llun wrth yr arwydd croeso. Dotiodd hefyd ar gastell Carreg Cennen a llawer i ardal arall o’r de-orllewin.
Ymwelydd â Washington yw Rachel bellach gan iddi ddychwelyd i fyw i’r Gaiman lle mae hi’n gyfrifol am gyflogi nifer o bobl yn gwerthu petrol sy’n eiddo iddi ynghyd a siop neu ddwy. Wrth iddi ffarwelio â Llandybie y llynedd mynegodd ei hawydd i ymweld a’r “Hen Wlad” eleni eto!
No comments:
Post a Comment