Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

19.6.10

LLAIS YR ANDES - Rini Griffiths a Vincent Evans

Ymwelydd cyson â Chymru ac â Llandybïe yw’r Fns Rini Griffiths, Esquel. Os oes rhai darllenwyr ag awydd ymweld â’r Andes, ‘La Chacra’ yw’r lle i anelu ato os am wely a brecwast go iawn ynghyd â chroeso gwir Gymreig. Yn wir mae cannoedd o ymwelwyr o Gymru wedi derbyn croeso gan Rini. Yn berson gweithgar o fewn y gymdeithas Gymreig yn Esquel, bu’n gefnogol nid yn unig i Hazel yn ystod ei chyfnod yno, ond hefyd i’r holl athrawon a’i dilynodd. Mae Rini’n wyneb adnabyddus yn Llandybïe ac yn gofalu ei bod yn galw heibio i Siop y Cennen bob amser. Yn wyneb cyfarwydd ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol, fe’i hanrhydeddwyd hefyd gan Orsedd y Wladfa.
Y tro diwethaf iddi ymweld â Llandybïe roedd ganddi gwmni diddorol iawn, sef Vincent a Clara Evans, Nantfach, Trevelin yn yr Andes. Dyma oedd eu hymweliad cyntaf â Chymru a hwythau dros eu pedwar ugain oed!
Buont yn ciniawa neu yn swpera yn Llais-yr-Andes, ond lletywyd y ddau gan y Fns Margaret Roberts, Cwmgwili, ffrind i Hazel a fu ar ymweliad â’r Wladfa dair blynedd yn ôl. Breuddwyd a wireddwyd ym mhrofiad Vincent oedd cael ymweld â’r man lle ganwyd ei dadcu, sef y cerddor Dalar Evans. Felly nos Sadwrn gwlyb cafodd fynd i le o’r enw Troedrhiwdalar - i’r capel yn gyntaf lle bu’r hen dadcu yn addoli ac yna i’r hen gartref, sef ffermdy lle roedd tad Mark Jones, y chwaraewr rygbi yn byw.
Rhaid, hefyd, oedd trefnu taith i Dyddewi a threfi glanmôr Penfro a Gfiyr, gan ymweld ag ambell gastell. Sylw parod y cyfeillion o’r Wladfa oedd ‘Onid yw popeth yn hen!’ Cofir nad oes yr un adeilad dros gant pum deg o flynyddoedd yn y parthau lle mae hwythau’n byw!
Gan fod Hazel yn gyfrifol am yr oedfa foreol yn Adullam, Felinfoel, Llanelli y Sul hwnnw pan oeddynt ar ymweliad â Llandybïe, aeth criw y Wladfa a chyfeillion eraill o’r Cwm gyda hi. Yn ystod y gwasanaeth daeth cyfle i Vincent ganu ei hoff emyn gyda’r cytgan ‘Haleliwia i’r Oen bwrcasodd ein pardwn…’. Fe fu, hefyd, yn difyrru pobl yn y Llwyn Iorwg, Llandybïe drwy ganu emynau a chaneuon Dafydd Iwan i gyfeiliant ei acordian.
Yn ôl ei dystiolaeth ei hun, derbyniodd Vincent a’i briod, Clara, groeso tywysogaidd ym mhobman gan gynnwys aelwyd Dai Jones, Llanilar. Roedd y ddau ohonynt, wrth gwrs, wedi ymddangos gyda’i gilydd ar raglen ‘Cefn Gwlad’ pan fu Dai yn ffilmio yng Nghwm Hyfryd. Dychwelyd adref oedd eu hanes wedi derbyn caredigrwydd mawr - Clara, hithau, wedi ffansïo set o lestri te ym Marchnad Caerfyrddin a’r ddau wedi cael rhodd o lwy garu enfawr o waith y Bnr Jac Roberts, Talyllychau, sef brawd y Fns Brenda James, M.B.E. Rhydaman.

1 comment:

Anonymous said...

Lots of excellent reading here, thanks! I was browsing on yahoo when I uncovered your post, I’m going to add your feed to Google Reader, I look forward to additional from you.

Help / Cymorth