Pleser oedd cael bod yn bresennol ym Mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Llanerchaeron eleni, ar y nos Iau, i gael gweld Jennifer Maloney o Landybie yn cael ei hanrhydeddu â Medal John a Ceridwen Hughes am ei gwaith gwirfoddol gydag ieuenctid yr ardal dros gyfnod o 34 mlynedd.
Yn nyddiau ei hieuenctid, bu Jennifer ei hun yn llwyddiannus dros ben yn canu ac adrodd mewn eisteddfodau led-led Cymru, gan gynnwys bod yn enillydd Genedlaethol.
NôL yn 1976, sefydlodd Adran o'r Urdd ym Mhenybanc, ei phentref genedigol, gyda'r bwriad o roi cyfle i ieuenctid yr ardal gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg, ac hefyd i ddechrau cystadlu. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, ymunodd Adran Penybanc gydag Adran Rhydaman i greu Adran Penrhyd. Ers hynny, mae unrhywun sy'n ymwneud ag Eisteddfodau'r Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Llangollen a'r ŴyI Gerdd Dant yn ymwybodol o lwyddiannau niferus a chyson yr Adran.
Gwerthfawrogiad o ymroddiad diflino Jennifer dros y blynyddoedd a ysgogodd rhai o'r aelodau a'u rhieni i'w henwebu ar gyfer derbyn y Fedal eleni.
Cyflwynwyd y Fedal i Jennifer gan Edryd Eynon, Llywydd Urdd Gobaith Cymru ac fe gafwyd dwy eitem ddawns, un yr un gan wyrion Jennifer, sef Sara Mai Davies a Steffan Rhys Davies, y ddau wedi bod yn llwyddiannus yn ystod y dydd yn eu gwahanol gystadlaethau.
Roedd aelodau agos ei theulu, llawer o ffrindiau a chriw da o ddawnswyr a chefnogwyr yn bresennol yn y seremoni.
Dyma'r person cyntaf o'r ardal i dderbyn yr anrhydedd yma. LLONGYFARCHIADAU!
No comments:
Post a Comment