Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

3.8.10

LLAIS YR ANDES - ISAIAS GRANDIS - PATAGONIA

Daeth gwr ifanc o'r enw Isaias Grandis ar ei dro i Lais yr Andes — yntau hefyd o ardal Trevelin, er fod ei rieni â’u gwreiddiau yn Cordoba, gogledd Ariannin. Fel Soraya Williams doedd gan Isaias yr un gair o Gymraeg pan gwrddodd â Hazel Charles Williams yn 1998, ond dechreuodd fynychu'r dosbarthiadau Cymraeg yn ffyddlon a buan y cafodd flas ar ddysgu'r iaith.
Nid dyma oedd ei ymweliad cyntaf a Chymru gan iddo fod yn Llanbedr Pont Steffan yn dilyn cwrs Wlpan ac yn ddiweddarch i Gaerdydd i ddilyn cwrs tiwtoriaid. Y tro hwn trefnwyd i Isaias arsylwi mewn ysgol yn Llambed a chafodd lety parod gan y Fns Morfudd Slaymaker, sydd a pherthnasau yn byw yn y Wladfa.
Ar ei ymweliad a Llandybie trefnodd Hazel iddo gymryd gwasanaeth yn ei Ile yng, nghapel Dyffryn, Manordeilo. Ar ben hyn, dangosodd Isaias luniau o gapeli'r Wladfa gan roi ychydig o'u hanes.
Wedi cyfnod o arsylwi mewn ysgolion yng Nghaerdydd dychwelodd Isaias i Drevelin Ile mae’n dywysydd yn yr Amgueddfa a hefyd yn diwtor Cymraeg.

No comments:

Help / Cymorth