Gredech chi fod 20 mlynedd wedi mynd heibio ers sefydlu côr Meibion Dyffryn Aman? I ddathlu'r achlysur teithiodd y côr i St. Peter Port, Guernsey ddechrau mis Mehefin ac fe fuon nhw'n perfformio mewn dau gyngerdd yno.
Diolch yma i Rowland John am drefnu'r daith, gyda chymorth Alan Thomas a Graham Davies.
Bore Sadwrn, Mehefin 5ed, bu un o'r aelodau, Chris Llewelyn, yn siarad am y côr ar Radio BBC Guernsey, ac fe chwaraewyd rhai caneuon o gryno ddisg y côr.
Amser cinio, buon nhw'n canu yn Eglwys y Dref. Llywydd y cyngerdd oedd Roy Sarre, Cyfarwyddwr Cerdd Corws Cymunedol Guernsey. Roedd ei ferch yntau, Josie Paine, yn unawdydd ac fe ymunodd gyda'r côr i Gloi'r cyngerdd gyda chytgan o "Gwyr Harlech."
Roedd y prif gyngerdd Nos Sadwrn yn Neuadd St. James. Roedd hwn yn gyfle arbennig i Berian Lewis, cyfeilydd y air - yn hytrach na defnyddio Yamaha Clavinova, fel yn yr ymarferion yng Nglanaman, -defnyddio "Steinway Concert Grand Piano" – gwerth £84,000! Ynghyd ag arweiniad ysbrydoledig Ian Llewelyn, does dim rhyfedd fod y cantorion wedi ymateb fel y gwnaethon nhw. Cafwyd perfformiadau grymus, ac erbyn diwedd y noson, rhwng y ddau gyngerdd, canwyd 23 can.
Yn sicr, gwnaethon nhw argraff ddofn ar y gynulleidfa o dros 500. Tybiwyd fod £7000 wedi ei godi tuag at Multiple Sclerosis.
Mae llwyddiant y côr i'w briodoli yn bennaf i Ian Llewelyn, - sydd wedi eu harwain ers y cychwyn cyntaf - and rhaid hefyd cydnabod ymroddiad pob un o'r aelodau a'r cyfeilyddion dros yr 20 mlynedd.
Dymuniadau gorau gyda'r dathlu eleni – edrychwn ymlaen at gefnogi'r air dros yr 20 mlynedd nesaf.
No comments:
Post a Comment