Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

2.9.10

LLEISIAU'R CWM - RAS AM FYWYD - Cwmaman, Glanaman

Yn ddiweddar fe fu deg o ferched Côr Merched Lleisiau’r Cwm o Ddyffryn Aman yn cymryd rhan yn y ‘Râs am Fywyd’ yn Llanelli, a rhyngddynt fe godwyd £1,100 o bunnoedd i Gronfa’r Cancr. Diolch i’r merched am wneud mor dda ac os oes rhywun am gyfrannu ymhellach byddant yn falch o dderbyn eich rhoddion. Mae eu gwerthfawrogiad yn fawr o’r bobl hynny sydd wedi eu helpu yn barod. Diolch yn fawr.

No comments:

Help / Cymorth