Yn gynharach eleni, cawsom gyfle i longyfarch Dawnswyr Penrhyd ar eu llwyddiannau di-ri yn Eisteddfod yr Urdd, Ceredigion, ac ar yr un pryd, estyn ein dymuniadau gorau i’w hyfforddwraig, Jennifer Maloney ar dderbyn Tlws John a Ceridwen Hughes.
Parhau wnaeth y llwyddiant wrth i’r dawnswyr fentro i’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy ym mis Awst, lle cawsant ddwy wobr gyntaf a dwy ail wobr.
Yn ystod gwyliau hanner tymor ddiwedd mis Hydref, aeth y Dawnswyr dan 15 oed, ynghyd â’u rhieni, - criw o tua 60 i gyd - allan i Torrevieja yng ngwlad Sbaen. Buont yn cymryd rhan mewn dau gyngerdd yno ac roedd y cynulleidfaoedd ar eu traed yn cymeradwyo’r perfformiadau safonol gan rai mor ifanc. Roeddent yn haeddu ychydig o ddiwrnodau yn ymlacio ar y traeth cyn dod nôl adre i ymarfer eto.
Dydd Sadwrn, Tachwedd 13eg, teithiodd nifer dda o’r aelodau i Fangor i gystadlu yng Ngwyl Gerdd Dant Glannau Menai. Cawsant y Wobr Gyntaf am Barti Dawns Oed Cynradd; Cyntaf ac Ail am Barti Dawns Oed Uwchradd a’r Wobr Gyntaf am y Brif Gystadleuaeth Ddawns i Oedolion, ynghyd â’r Ail Wobr am Grfip Stepio.
Ydy wir - mae 2010 wedi bod yn flwyddyn i’w chofio i Ddawnswyr Penrhyd, ac maen nhw bob amser yn gwerthfawrogi’r holl gefnogaeth oddi wrth rieni a ffrindiau.
Llongyfarchiadau i bawb sy’n ymwneud â’r grwp.
No comments:
Post a Comment