Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

7.12.10

Rwy’n gweld o bell.....................’ Y Gwynfryn, Rhydaman

Fe fu Eglwys y Gwynfryn, Rhydaman o dan arweiniad ei gweinidog, y Parchg. Emyr Gwyn Evans wrthi’n brysur yn cynnal gweithgareddau cenhadol rhwng Medi 21 a 24 eleni.

Dechreuwyd meddwl am yr ymgyrch ar ôl clywed y Dr. Geraint Tudur, Ysgrifennydd Undeb yr Annibynwyr, yn annerch Cyngor Eglwysi Rhyddion Rhydaman ar y testun ‘Bywiogi Pethau’.
Y ddau ddigwyddiad ychwanegol i’n gweithgaredd wythnosol arferol oedd cynnal Diwrnod Agored ar y dydd Mercher, ac Oedfa Genhadol ar y nos Wener. Yr wythnos gynt fe fu llawer o’n haelodau’n dosbarthu taflenni cyhoeddusrwydd i bob tŷ yn Rhydaman, cafwyd cyhoeddusrwydd yn Y Tyst a’r cylchgrawn cymunedol The Amman, cafodd pob eglwys leol wybodaeth , ac argraffwyd taflen liwgar chwech ochr yn estyn croeso i’r Gwynfryn. Hefyd codwyd hysbysfwrdd tu allan i’r capel fel bod pawb yn cael gweld amser yr oedfa a’n gweithgareddau wythnosol – y Cylch Hwyl a Gwaith a’r Cwrdd Gweddi/Dosbarth Beiblaidd,
enw’r gweinidog, a rhif ffôn yr ysgrifenyddes. (Ar hyn o bryd, y Gwynfryn yw’r unig eglwys anghydffurfiol Gymraeg yn y dref sy’n cynnig y wybodaeth yma).
Prif fwriad y Diwrnod Agored oedd dangos bod gan ein heglwysi gymdeithas gynnes i’w chynnig i bawb, a dangos hefyd trwy drefnu stondinau Cymorth Cristnogol, Cymdeithas y Beibl, Mudiad Ieuenctid Cristnogol ac Undeb yr Annibynwyr Cymraeg bod yr Eglwys ar waith trwy’r byd i gyd Rydym yn ddigon parod i achwyn mai newyddion drwg sy’n cael y sylw i gyd ar y cyfryngau – ‘Good News is No News’ – ond efallai bod bai arnom ni nad ydym yn ddigon parod i gyhoeddi’r ‘Newyddion da o lawenydd mawr’ sydd gan yr eglwysi i’w cynnig. Er mai nifer cymharol fach ddaeth atom – ‘dyw’r had ddim i gyd yn disgyn ar dir da – eto i gyd wyddom ni ddim beth fu effaith y taflenni a ddosbarthwyd, tybed a fu iddynt godi trafodaeth mewn rhai cartrefi. Efallai mai yn nes ymlaen cawn ni weld dylanwad yr ymdrech.
Roedd yr oedfa nos Wener yn oedfa wahanol. Llawr y capel yn llawn, band modern yn y Set Fawr yn ein harwaith mewn wyth o ganeuon cyfoes, ac anerchiad grymus a herfeiddiol gan Mr. Arfon Jones, Caerdydd. Dechreuodd yr oedfa am saith ac fe gawsom shoc wrth weld ei bod yn chwarter i naw pan ddaeth i ben! Cwestiwn sy’n codi yn aml y dyddiau hyn yw, a yw hi’n bryd i ni ffarwelio â’r oedfa draddodiadol? Yn ôl tystiolaeth yr oedfa arbennig yma, yr ateb yw, Ydyw.
Wel, tybed a oedd yr ymdrech yn werth chweil? Doedd ‘na ddim hanner cant o aelodau newydd yn yr oedfa ar y Sul canlynol, ond yn sicr doeddem ni ddim yn disgwyl hynny. A wnaethom ni’n iawn i efelychu dulliau cyhoeddusrwydd ein byd seciwlar cyfoes? A ydi pobl yn shy o ddod i mewn i gapel y dyddiau hyn, ac hwyrach a fyddai nifer mwy wedi mentro pe bai’r diwrnod agored a’r oedfa wedi eu cynnal mewn neuadd gyhoeddus? Neu a ydyw mwyafrif pobl yr ardal hon erbyn hyn yn hollol ddifater ynghylch crefydd? Holed pob dyn ef ei hun.
Beth bynnag, rydym ni yn y Gwynfryn yn falch ein bod wedi mentro, ac wedi cael llawer o bleser wrth y gwaith. Byddwn yn cymryd amser yn ystod y gaeaf i fesur a phwyso’r sefyllfa. Tybed a fyddai’n bosibl yn y flwyddyn 2011 i eglwysi’r dref i gyd, Cymraeg a Saesneg, i uno a chyd-weithio mewn ymgyrch genhadol arall?

No comments:

Help / Cymorth