Linden Evans, athro Saesneg yn Ysgol Gyfun Gŵyr, yw Llywydd newydd Cymru ar Undeb Athrawon UCAC.
Yn enedigol o Lanaman, mae Linden Evans yn athro ac yn undebwr profiadol. Treuliodd naw mlynedd yn dysgu Saesneg yn Ysgol Gyfun Ystalyfera cyn symud i Ysgol Gyfun Gŵyr, lle mae’n Bennaeth Blwyddyn ac yn ddirprwy Bennaeth yr Adran Saesneg.
Mae Linden Evans yn dilyn yn ôl troed un arall o Heol Tirycoed fel Llywydd yr undeb, sef Gail Jones, merch Mair a Wyn Jones (Penlan).
Wrth gael ei urddo yng Nghynadledd Flynyddol UCAC, dywedodd Linden,
“Mae ysgolion Lloegr yn cael eu hariannu’n well nag ysgolion Cymru, o tua £529 y pen. Ar ben hyn, bydd Llywodraeth y Cynulliad a Llywodraeth Leol yn gwneud toriadau poenus dros y blynyddoedd i ddod. Ein blaenoriaeth ni fel Undeb yw parhau i bwyso ar y Llywodraeth i sicrhau fod plant Cymru’n cael yr un chwarae teg â phlant Lloegr, a bod yr ysgolion yn cael eu hariannu’n ddigonol, nid yn unig i gynnal safonau, ond i alluogi ysgolion Cymru i barhau i ddatblygu a chodi safonau.”
“Ein dyletswydd ni fel undeb yw cefnogi athrawon a darlithwyr; ymladd dros eu buddiannau; brwydro i wella eu hamodau gwaith – ymateb yn gadarn, hyd yn oed yn ffyrnig, os oes anghyfiawnder iddynt. Yn ychwanegol at hyn, mae ein dyletswydd ni i’r iaith Gymraeg yn glir – rhaid gwthio i sicrhau statws teilwng i’r iaith ym mhob agwedd o fywyd, ac yn enwedig mewn addysg.”
“Fel Llywydd yr Undeb am y flwyddyn nesaf, fe wnaf fy ngorau glas i ymladd dros athrawon a darlithwyr, a thros addysg ein disgyblion a’n myfyrwyr, a dros yr iaith Gymraeg.”
Mae Linden Evans hefyd yn un o gyd-sylfaenwyr Côr Meibion Dyffryn Aman, ac yn ymddiddori mewn cerddoriaeth o bob math, yn enwedig roc trwm.
Pob hwyl Linden ar y gwaith a iechyd da i’r dyfodol.
No comments:
Post a Comment