Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

6.3.11

Cymdeithas Gorawl Rhydaman a’r Cylch

Eleni, er gwaethaf pawb a phopeth, bu’n bosibl i Gymdeithas Gorawl Rhydaman a’r Cylch gynnal noswaith i Ddathlu’r Nadolig yng Nghapel y Gwynfryn. Bu adeg y paratoi a’r ymarfer yn anodd iddynt,  fel i bob sefydliad arall. Rhaid oedd dileu sawl ymarfer, oherwydd yr eira a’r iâ, a chyfarfod pan oedd modd gwneud hynny, gan dybed a fyddai’r gyngerdd yn cael ei chynnal, ac a fyddai pobl yn troi allan i wrando. Ond yn wir i chi, fe wellodd y tywydd i raddau, ac fe gasglodd cynulleidfa ynghyd.
Dymuna’r côr ddiolch o galon iddynt am yr ymdrech a’r gefnogaeth, yn arbennig yn yr amgylchiadau eleni.
Bu’r gweddiau o dan ofal y Parchedig Maldwyn
John. Y llefarydd eleni oedd Alun Lloyd, a gyflwynodd yr eitemau yn llyfn a di-ymdrech. Cyfrannodd hefyd ddetholiad o benillion Nodoligaidd gan I.D. Hooson. Parti o Ysgol Bro Banw oedd yr artistiaid cyntaf i ymddangos, ac fel fydd plant yn gwneud, yn rhoi’r cyfan o galon. Tair cân am y Nadolig oedd eu rhaglen, a’r canu deulais yn sicr a chanmoladwy. Gosodwyd sylfaen o safon i’r noson. Dwy delynores, Megan Martin a Rhiannon Jones oedd yr artistiad eraill, y ddwy yn ddisgyblion yn Ysgol Maes yr Yrfa. Hyfryd oedd clywed sain gwahanol. Deuawdau oedd ganddynt, yr arddull yn ymestyn o fiwsig cyfoes yn null Y Blues i ddull y garol enwog, Tawel Nos, yr amrywiaeth yn dod a ffresni i’r rhaglen. Dymunwn pob llwyddiant iddynt yn y dyfodol. Roedd y côr ar ei orau, er bod sawl lle gwag oherwydd afiechyd, damweiniau, problemau teuluol ac ati, and bu’r gweddill ar eu gorau, a’r ymdrech yn ffafriol. Bu canmol mawr ar y dewisiadau, oedd yn ddetholiad o’r hen garolau gwerinol hyd at rhai cyfoes gan meistri fel Karl Jenkins a John Rutter. Fel gyda’r pwdin Nadolig, mae cynhwysion o’r un fath yn gallu troi allan naill neu’n ddiflas, neu yn flasus tu hwnt. Cymysgedd blasus oedd i’r rhaglen eleni.

Bydd y gynulleidfa yn mwynhau ymuno yn y canu, a chawsant hwyl arbennig, y noson hon. Mae arweiniad sicr a serchog Indeg Thomas yn tynnu’r gorau allan o bob un, ac mae’r ddwy gyfeilyddes, Olwen Richards ar y piano a Sally Arthur ar yr organ yn gefnogaeth teilwng iddi hi. Wedi’r holl drafferthion, cawson noson hwylus dros ben, un a roddodd baratoad hwylus i’r wyl. Er ei bod yn fis
Chwefror yn awr, nid yw’n rhy hwyr i’r côr ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i bawb.

No comments:

Help / Cymorth