Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

6.3.11

Mrs Dilys Mary Richards

Dymuniadau da i Mrs Dilys Mary Richards, 86 Heol Tircoed, Glanaman, ar ddathlu ei phenblwydd yn 80 oed ar Chwefror 19ed eleni. Ganwyd Dilys yng Nglanaman ac mae wedi byw drwy ei hoes yn y pentref. Mae’n briod gyda Rhythwyn ers 54 o flynyddoedd ac yn fam i Dillwyn sydd yn Athro yn yr Eidal a David sydd yn Feddyg Teulu yn Hwlffordd. Mae ganddi bump o wyrion, sef Andrew, Carys, Owain, Ffion ac Aled. Mae Dilys yn diddori mewn garddio, bowlio dan do a gwau. Mae’n hoff iawn o gadw’n heini ac yn aelod o ddosbarth “Keep Fit”, ac yn mwynhau gwyliau tramor a mordeithiau. Hefyd mae Dilys yn Gadeirydd “Calon i Galon”, ac yn Ysgrifenyddes Ffrindiau Ysbyty Dyffryn Aman. Mae’r capel yn bwysig iawn yn ei bywyd ac mae’n Gyd-Arolygwr yng Nghapel y Tabernacl. Mae hi’n aelod gweithgar o Bwyllgor Cymorth Cristnogol Cwmaman ac yn gwau blancedi i wledydd mewn angen. Llongyfarchiadau Dilys ar gyrraedd y penblwydd arbennig yma gan obeithio y mwynhewch y diwrnod a dymunwn iechyd da i chwi i’r dyfodol.

No comments:

Help / Cymorth