Yn ystod Oedfa fore Sul Ionawr 30 yn Ngellimanwydd bedyddwyd Elan Wyn Jones, merch Nia a Gareth Jones, Tycroes. Yna yn oedfa deuluol bore dydd Sul Mawrth 13 bedyddwyd Ifan Wyn Jones, mab Nerys a John Jones, Hopkinstown, gynt o Waunfron, Y Betws.
Cafodd y ddau eu bedyddio gan Y Parchg Dyfrig Rees.
Mae Elan ac Ifan yn gefnder a chyfneither ac yn wyrion i Ann ac Wynford Jenkins, Rhodfa Brynmawr, Rhydaman. Dymunwn pob bendith I’r ddau fach
No comments:
Post a Comment