Nos Wener 11 Mawrth, 2011 daeth criw da i'r Arcade i gymryd rhan yn y Banana Split Masnach Deg enfawr. Dyma'r trydydd flwyddyn i ni gynnal y banana split ac roedd eleni yn well nag un y llynedd.
I ddechrau roedd angen gosod y byrddau ar hyd yr arcade, yna y cafnau. Roedd angen leinio'r cafn gyda ffoil aliminiwm.
Wedi hyn daeth pobl ifanc y capeli a clybiau ieuenctid cristnogol y dref i dorri'r bananas a'u gosod ar hyd y cafn. Y peth nesaf i wneud oedd rhoi'r hufen ia, hufen a saws siocled ar y banana split.
Erbyn 6.15 roedd popeth yn barod i'w fwyta. Cafodd pawb lwy ac ar ol i Paul Griffiths ddweud ewch dechreuodd pawb i fwyta.
Yn ogystal roedd stondin yn gwerthu nwyddau ar gyfer diwrnod Y Trwynau Coch sydd i'w gynnal nos Wenere nesaf
No comments:
Post a Comment