Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

29.4.11

Cwrdd y Senana - Tycroes

Miss Ruth Bevan
Nos Iau, Mawrth 10fed death nifer o wragedd Eglwysi Bedyddiedig Adran Rhydaman ynghyd i gapel Bethesda, Tycroes. Llywyddwyd gan Mrs. Dawn Richards, Llanedi. Y siaradwraig wadd oedd Miss Ruth Bevan, Rhydaman.
Mrs. Maud a Mrs. Ray Jones, Bethesda gymerodd at y rhannau arweiniol gan greu naws hyfryd i’r oedfa. Yn anffodus, oherwydd anhwylder, methodd Mrs. Eilir Watkins, yr ysgrifennydd ac organydd Bethesda, fod yn bresennol. Ond fe ddaeth y Parch. John Talfryn Jones i’r adwy gan groesawu’r chwiorydd i Fethesda a chyfeilio ar yr organ. Mawr yw ein dyled iddo am ei barodrwydd i’n cynorthwyo bob amser.
Coffawyd am y galarwyr drwy weddi fer a chanwyd yr emyn ‘Einir’. Cyflwynodd y llywydd y siaradwraig Ruth Bevan gan gyfeirio at ei amrywiol dalentau fel cyn-brifathrawes ac hefyd ei chyfraniad at wasanaeth yr Eglwys.
Soniodd yn gyntaf am rôl y gwragedd yng ngwaith yr Efengyl gan gyfeirio at nifer o enghreifftiau o wragedd da a drwg a geir yn y Beibl. Yna cododd destun o’r darlleniad agoriadol sef hanes y wraig a dorrodd y blwch ennaint dros yr Iesu. Er i rhai feirniadu’r weithred fel act gostus a gwastraffus gwelodd yr Iesu hi fel gweithred dda gan ddweud y byddai llawer yn sôn am y weithred hon ar hyd yr oesoedd ac ar draws y byd i gyd. I Ruth roedd hon yn fwy na gweithred dda, yn wir roedd yn weithred brydferth. Cafodd yr anerchiad dderbyniad gwresog gan y gynulleidfa a phawb wedi teimlo mae da oedd bod yno.
Terfynwyd gyda’r diolchiadau gan Mrs. Mary Rees ac roedd pawb yn unfrydol unfarn ein bod wedi cael bendith fawr yn yr oedfa.

            Bydd y cwrdd nesaf o’r Senana yng Nghapel Amor, Llanfynydd ym mis Mehefin.

No comments:

Help / Cymorth