Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

29.4.11

Dydd Gweddi Byd-eang y Chwiorydd - Tycroes


Llun o waith llaw Norma Ulloa

Yn ôl ein harfer daeth nifer o wragedd o gapeli Bethesda, Caersalem, Moreia, Pisga ac Eglwys Sant Edmwnd, Tycroes ynghyd i gynnal oedfa arbennig Dydd Gweddi Byd-eang y Chwiorydd a hynny ym Moreia ar brynhawn Gwener, Mawrth 4ydd, 2011. Croesawyd y gwragedd gan Mrs. Eiry Davies. Mrs. Wynona Anthony oedd wrth yr organ.

‘Pa sawl torth sydd gennych?’ oedd testun y gwasanaeth a’r rhaglen wedi ei pharatoi gan wragedd gwlad Chile. Cafwyd yn gyntaf fraslun o’r wlad – ei daearyddiaeth, ei hanes, ei thraddodiadau a’i chrefydd. Gwlad yn ymestyn am 2,640 o filltiroedd ar arfordir y Môr Tawel ar gyfandir De America yw. Diddorol oedd clywed bod Chile yn wlad o wrthgyferbyniadau – mynyddoedd yr Andes, dyffrynnoedd ffrwythlon, llynnoedd a fforestydd trofannol, llosg fynyddoedd, mynyddoedd ia a hefyd darn o anialwch mawr. O ganlyniad mae’n gyfoethog yn ei hadnoddau naturiol, e.e., gwlad Chile yw prif gynhyrchydd copr y byd. Mae’n allforio bwydydd, gwinoedd, coed a nwyddau i’r holl fyd. Eto, er yr holl gyfoeth, mae 12% o’i phoblogaeth yn dlodion ac yn eu mysg plant, yr hen oed a gwragedd. Gwelir hefyd bod afonydd y wlad wedi eu llygru â chemegau a bod cwmwl o ‘smog’ yn hofran uwchben ei phrifddinas Santiago.

Oherwydd y tlodi daeth rhai o wragedd Chile ynghyd yn 1970 i geisio ennill ychydig o arian drwy wneud gwaith llaw – gwau, crochet a brodwaith. Aeth hyn o nerth i nerth a dywedir gan un o’r gwragedd bod ei henillion hi wedi galluogi ei phum plentyn ac un ŵyr ddilyn cwrs addysg bellach.

Ymysg y gwragedd oedd Norma Ulloa, gwraig dalentog. Gofynnwyd iddi lunio a chwblhau gwaith llaw arbennig. A gwelir llun o’i gwaith ar glawr y rhaglen. Cyn cychwyn ar ei thasg bu Norma yn myfyrio’r Gair ac yn edrych o’i chwmpas am ysbrydoliaeth. Yn y campwaith gwelir y Crist yn gweddïo yng Ngardd Gethsemane a’r disgyblion yn cysgu’n drwm. Mewn rhan arall gwelir y Crist yn gwella’r cleifion. Yna, ar y gwaelod dwy olygfa gyffredin i Norma sef cae o ŷd melyn yn symud yn yr awel ac yna ceffylau yn dyrnu’r ŷd. Yn olaf yn y canol gwelir yr Iesu â’r bump torth haidd a dau bysgodyn – sef testun y gwasanaeth.

Yn anffodus, yn dilyn y ddeargryn fawr yn Chile yn 2010 bu farw Norma o glefyd y galon. Drwy wrando ar nifer o ddarlleniadau Beiblaidd a gweddïau daethom i gyd i sylweddoli beth oedd amcan a phwrpas y cwestiwn ‘Pa sawl torth sydd gennych?’ Gofyna’r Efengyl i ni fel unigolion weld yr angen sydd yn y byd a mwy na hynny, gweithredu er lleddfu poen a thlodi.

Eleni eto cawsom fendith o ddod at ein gilydd ac i uniaethu ein hunain â gwragedd Chile.

No comments:

Help / Cymorth