Nos Iau diwethaf, 10 Mawrth, dan nawdd Criw ACT, cawsom noson arbennig yn y Neuadd. Daeth criw o bobl o Abertawe atom. Ceiwsyr lloches neu ffoaduriaid oedd y pobl a daethant atom i son am Abertawe fel dinas Noddfa "City of Sanctuary ". Ein Cyn Weinidog y Parchg Dewi Myrddin Hughes oedd wedi creu'r cyswllt hwn a braf oedd cael croesawu Dewi atom i'n plith.
Yn ystod y noson cawsom gyngerdd anffurfiol gyda ein gwestwion yn cymryd rhan drwy ddarllen barddoniaeth, adrodd ychydig o hanes a chwarae Drymiau Affricanaidd. Yna daeth aelodau Gellimanwydd at eu gilydd i ganu ychydig o ganeuon traddodiadol Cymreig, a cawsom eitemau ar y piano gan Rhys Thomas.
Un o uchafbwyntiau'r noson oedd gweld plant Ysgol Sul Gellimanwydd, Mari, Elan a Dafydd yn chwarae'r drymiau gyda'r ymwelwyr.
Wedi'r adloniant cawsom gyfle i fwynhau pryd o fwyd blasus mewn ffurf bwffe bys a bawd oedd wedi ei baratoi gan aelodau Gellimanwydd.
Noson hyfryd gyda neges bwrpasol i ni gyd - mae Dinas Noddfa yn ymgyrch cenedlaethol o bobl lleol a grwpiau cymunedol yn gweithio gyfa'i gilyd di wneud eu trefi a dinasoedd yn lefydd croesawgar, saff ar gyfer pobl sy'n cwhilio am noddfa rhag rhyfel neu erledigaeth.
Yna ar fore Sul 20 Mawrth criw ACT oedd yn gyfrifol am y gwasanaeth boreol. Ceiswyr Lloches oedd y thema. Hyfryd oedd gweld cymaint yn Neuadd Gellimanwydd ar gyfer yr oedfa. Cawsom ein harwain drwy weddi, darlleniadau, emynau, caneuon, adroddiadau a sgetsus at yr angen am Noddfa arnom i gyd.
Diolch i bawb oedd yn gyfrifol am yr oedfa arbennig.
No comments:
Post a Comment