Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

10.5.11

Cymdeithas Edward Llwyd yn crwydro’r Waun

Daeth 35 o aelodau’r Gymdeithas ynghyd dan arweiniad Maldwyn James i grwydro ardal y pyllau glo ac i glywed mwy am hanes yr ardal.  Bu llawer o drafod am ystyr a tharddiad yr enw Gwaun-Cae-Gurwen gan gyfeirio’n arbennig at y blodyn cregyr gwyn.  Felly, yn ôl yr hanes Waun y cregyn gwyn a aeth yn Gwaun-Cae-Gurwen.
Cyfnod llwyddiannus yr ardal oedd rhwng 1850 ac 1920.  Enillodd y glo caled ‘anthracite’ sawl gwobr am ansawdd y glo caled led led y byd. Roedd un gwthien sef y Peacock yn 99.6% o garbon pur yn llosgi heb fwg ar dymheredd uchel iawn.   Yn ystod y cyfnod llwyddiannus roedd 2,000 yn gweithio yn y pedwar gwaith glo mwyaf a gwelwyd datblygiad rheilffordd yr ardal. 

Yn cyd-fynd a hyn roedd tua ugain o addoldai yn y cylch ac yn ôl cyfrifiad 1891 roedd 93% yn mynychu lle o addoliad.  Erbyn heddiw lleihau mae’r addoldai a’r addolwyr, ond mae’r ardal yn ymfalchio yn llwyddiant band enwog y Waun dal i fynd.

Mae’r ardal yn ymhyfrydu yn llwyddiant y plant a fagwyd yma: Gareth Edwards, Eic a Huw Llywelyn Davies, yr Archesgob Barry Morgan a Sian Phillips a chlywyd hanes nifer o hen drigolion lliwgar y Waun ar y daith.

Mae’r tipiau glo wedi diflannu erbyn hyn ond mae effaith y gweithfeydd glo brig yn amlwg heddiw.  Cawsom dywydd sych wrth i ni ddringo lan i Banc Bryn ac ar draws Mynydd y Betws.  Wrth i ni ddod yn ôl drwy Barc Gwledig Ynys Dawela’ ym Mrynaman daeth y glaw trwm ond ni lwyddodd hyn i ddiflasu hwyl yr aelodau.  Diolch i bawb am gyfrannu tuag at y sgyrsiau wrth i ni gyd gerdded ardal sydd â llawer mwy o hanes iddi.  Rhaid trefnu taith arall yn y dyfodol.

No comments:

Help / Cymorth