Y llywydd newydd, Mrs. Carol Anne Lewis, Moreia ynghyd â’i rhagflaenydd Mrs. Mairwen Lloyd, Gellimanwydd
Mae’r mudiad uchod bellach yn drigain oed. Ar gais y diweddar annwyl Dr. D. Tegfan Davies, gweinidog Gellimanwydd ar y pryd, fe fu Mrs. Mary Elizabeth James, Gellimanwydd alw cyfarfod o chwiorydd y bedair eglwys a berthynai i gylch y Gymanfa Ganu Gwener y Groglith sef Gellimanwydd a’r Gwynfryn, Rhydaman, Moreia, Tycroes a Seion, Llandybïe i ffurfio Adran Genhadol y Chwiorydd. Daeth y llywydd cyntaf o Foreia, sef Mrs. S. A. Mathias; Mrs. Mary Elizabeth James, Gellimanwydd yn ysgrifennydd, Mrs. Stephens o Seion yn drysorydd a Mrs. Peggie Thomas, Y Gwynfryn yn is-lywydd. Penderfynwyd cwrdd yn fisol gyda the syml yn dilyn pob cyfarfod. Mi fyddai casgliad a thâl am y te a’r arian i gyd yn mynd at waith y Genhadaeth Dramor (London Missionary Society) bryd hynny.
Bu ganddynt ymgyrch i gasglu sylltau (5c) o gylch aelodau’r eglwysi na berthynai i’r adran. Bellach bore coffi a gynhelir er mwyn chwyddo’r coffrau. Mae’r adran wedi cyflwyno miloedd o bunnau at waith y genhadaeth (Council for World Mission ) ac yn dal i wneud gan gynnwys cyfraniad at waith MIC – Mudiad Ieuenctid Cristnogol – yma yn ein hardal ni.
Mae’r adran yn dal i gyfarfod yn gyson ac yn mynd, fel yr awgrymwyd yn wreiddiol, o gapel i gapel o fis i fis er bod Seion, Llandybïe wedi tynnu allan o’r adran ers blynyddoedd bellach. Yn ystod eu bodolaeth mae nifer o genhadon o wledydd tramor wedi ymweld â’r adran, e.e. Miss Gwyneth Evans, Madagascar sy’n byw bellach mewn cartref preswyl yng Nghil-y-bebyll
Yn y cyfarfod blynyddol eleni a gynhaliwyd yn y Gwynfryn ym mis Mawrth urddwyd y llywydd newydd sef Mrs. Carol Anne Lewis ar ran Moreia. Mrs. Mairwen Lloyd, gwraig Wyn Lloyd o Dycroes gynt, ar rhan chwiorydd Gellimanwydd a drosglwyddodd Beibl y mudiad i Mrs. Lewis. Rhodd gan y Parch. D. Tegfan a Mrs. Sarah Davies yw’r Beibl ac ar y ddalen flaen gwelir gomisiwn i’r adran yn ysgrifen goeth arbennig Dr. Tegfan.
Yn Mis Ebrill cyflwynodd nifer o’r chwiorydd eitem ar lafar a chân yng nghyfarfod blynyddol Adran Chwiorydd Cyfundeb Dwyrain Caerfyrddin a Brycheiniog ym Mhontyberem. Ym mis Mehefin fe fydd Cyfarfod Blynyddol Adran Chwiorydd Talaith y De yn cael ei gynnal am y tro cyntaf erioed yng Ngellimanwydd a Mrs. Bethan Thomas, Tycroes yn derbyn Beibl y Mudiad a’i hurddo yn llywydd gan Mrs. Carys Williams, gweddw’r diweddar Barch. Meurwyn Williams, Brynaman.
No comments:
Post a Comment