Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

5.5.11

Dosbarth Beirdd y Mynydd Du - Cwmaman

Bu rhai o feirdd y Cwm yn brysur iawn yn ddiweddar yn cymeryd rhan yng ngwersi barddol Dafydd Wyn o dan nawdd yr Academi ac Awel Aman/Tawe yn y Llyfrgell yn Rhydaman.  Yr oedd y grŵp wrth ei bodd yn ymarfer y gwahanol fathau o’r Canu Rhydd.  Cafwyd hwyl yn cyfansoddi darnau ar thema “Cynhesu’r Hinsawdd’ ar gyfer cystadleuaeth a hysbyswyd ar y Rhyngrwyd.  Cafwyd ceisiadau di-ri o bob rhan o Gymru ac hefyd, yn wir, o’r byd yn yr Adran Saesneg gan ei fod dros y We.  Yr oedd y Noson Wobrwyo ym Mhontardawe ar ddiwedd mis Chwefror yn hyfryd gan bod dau feirniad o fri yn traddodi ar y cyfansoddiadau sef Menna Elfyn a Gillian Clarke.  Roedd yn bleser hefyd i wrando ar ddarlleniadau’r tiwtoriaid sef Susan Richardson a Dafydd Wyn fel enillydd Cymru o Wobr John Tripp. Hyfryd yw datgan bod dwy o’r dosbarth barddol wedi bod yn llwyddiannus sef  Mair Wyn, Glanaman â’i cherdd ar yr “Arth Wen” a Glenys Kim Protheroe, Brynaman gyda’i cherdd am “Y Broydd Hyn”.  Rhanodd y ddwy yma y drydedd wobr a chawsant flas ar ddarllen eu cerddi buddugol.  Hefyd, cafodd Mel Morgan, Brynaman ei waith wedi ei argraffu mewn Detholiad arbennig o’r cerddi gorau.  Yn y Categori Ieuenctid enillodd Adam Jones o Lanaman y Wobr Gyntaf.  Llongyfarchiadau mawr i’r beirdd ar eu cerddi ac hefyd i Gareth Jones y Llyfrgellydd am ei gefnogaeth i’r dosbarthiadau yma a fyddant yn ail-gychwyn yn y dyfodol agos.

No comments:

Help / Cymorth