Llongyfarchiadau mawr i 8 o ferched Bl.12 Ysgol Gyfun Dyffryn Aman ar ennill cymhwyster OCN Lefel 2 mewn Hyfforddiant Grwpiau Ieuenctid Iau. Yn ystod penwythnos yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog bu’r merched yn weithgar iawn yn annog disgyblion Iau’r ysgol i gymryd rhan mewn amryw o weithgareddau hwylus a diddorol yn ogystal â chwblhau’r OCN, fel rhan o Gynllun Llwybrau i’r Brig , Urdd Gobaith Cymru. Prosiect ar y cyd rhwng yr Urdd a’r Cynulliad, wedi ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop. Am fwy o wybodaeth am Gynllun Llwybrau i’r Brig yn Sir Gaerfyrddin , cysylltwch â Lowri Evans ar 01267 676652 neu lowrievans@Urdd.org.
No comments:
Post a Comment