Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

22.6.11

CYLCH Y CHWIORYDD - GIRL GUIDES - TYCROES


Côr y ‘Guides’ a ‘Rangers’ Tycroes

Mewn cyfarfod yn ddiweddar o Gylch y Chwiorydd croesawodd y Cadeirydd, Jan Thomas, yr aelodau ynghyd â’r gwesteion, sef rhai o aelodau ‘Guides’ a ‘Rangers’ y pentre. Maent yn cyfarfod yn wythnosol yn Neuadd yr Eglwys o dan arweiniad Louise Jones. Merch Ann Robinson (gynt Trussler) yw Louise a daeth yn olynydd i’w mam fel arweinydd y grŵp.

            Cawsom amser hynod ddifyrus gyda pharti yn canu rhai o ganeuon poblogaidd Abba. Cymaint oedd y mwynhad fel bod rhai o’r gylch yn cyd-ganu gyda’r parti. Rhoddodd Jessica Ham ddwy unawd o ganeuon poblogaidd. Bu ei mam hithau, Rhian Ham, yn arweinydd y grŵp yn y gorffennol.

            Diolchwyd i Louise ynghyd â Nia Griffiths a Rhian Phillips – dwy chwaer fu’n cynorthwyo a talwyd teyrnged iddynt am eu gwaith gwirfoddol yn y pentre. Holwyd Louise ar weithgareddau’r ‘Guides’. Deallir eu bod yn brysur ac yn cyfarfod yn wythnosol yn ‘Fantasia’ yng Nghapel Hendre yn paratoi gogyfer â’r sioe ‘The Wizard of Oz’. Maent hefyd yn ymdrechu i godi arian er mwyn anfon tair merch anabl i wersyll yn Brisbane, Awstralia. Ar Sul, Mai 18fed, gwelwyd y merched yn yr Ardd Fotaneg yn gwerthu ‘doughnuts’ ar Ddydd Cenedlaethol y ‘Doughnut’. Pwrpas hyn oedd codi arian at amrywiol elusennau teilwng.
Y merched yn y Gerddi Botaneg yn codi arian i Hospis Cenedlaethol y Plant yn ystod Wythnos Cenedlaethol y ‘Doughnut’

Ar Fehefin 20fed mae’r grŵp yn estyn gwahoddiad i bentrefwyr dros yr hanner cant oed i Neuadd y Pentre, i fwynhau scons a the gyda chyngerdd ysgafn yn dilyn. Pwrpas hwn ydyw codi arian  i gwrdd â chostau teithio  i Eisteddfod yr Urdd yn Felindre, Abertawe. Bu’r Parti Cân Actol yn llwyddiannus yn Eisteddfod y Sir ac maent yn edrych ymlaen yn eiddgar at gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Dymunwn bob llwyddiant i Louise, y ddwy ferch sy’n cynorthwyo a’r ‘Guides’ yn eu hymdrechion. Talwn deyrnged iddynt am eu cyfraniad amhrisiadwy i ddyfodol merched ieuainc y pentref.

No comments:

Help / Cymorth