Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

24.6.11

Penblwydd yn 80 oed


 Mefus y Gelli gyda Dai ei Gŵr yn Ne Affrig
Llongyfarchiadau mawr i Mrs Mefus Williams, Fferm y Gelli, Glanaman ar gyrraedd ei 80 oed yn ddiweddar.  Cafodd Mefus ei geni ym Maesybont gerllaw Carmel ac roedd ganddi ddau frawd.  Tyddyn bach oedd y cartref a’i thad yn lowr wrth ei alwedigaeth.  Mynychodd Mefus Ysgol Maesybont ac yna Ysgol Llandybie.  Gorffennodd ei dyddiau ysgol yn 1945 ac aeth i weithio yn Ysbyty Penlan, Caerfyrddin am chwe blynedd.  Yna bu gorfod iddi rhoi’r gorau i’w swydd a dychwelyd adre i helpu ei mam oherwydd salwch ar yr aelwyd.  Roedd Mefus yn hoffi mynd i glybiau’r Ffermwyr Ieuanc ac un noson aeth i ddawns oedd yn cael ei chynnal yn Neuadd y Pale yn y Garnant lle cyfarfu â Dai, ei gŵr.  Priododd â Dai yn 1955, diwrnod ar ôl cael ei 24 oed, yng Nghapel Milo ac ymgartrefodd y pâr ifanc yn Fferm y Gelli.  Roedd teulu Dai yn wreiddiol o Nantycrugle, ond erbyn hyn, mae fferm y Gelli wedi bod yn ei deulu am bedair cenhedlaeth.  Pan briodon nhw, roedd Dai yn ei waith dyddiol yn dreifio injin yn y gwaith Glo Brig gerllaw, a Mefus adref yn codi ei theulu.
          Mae ganddynt chwech o blant – Margaret Wyn, yr hynaf, yn Ofalwraig Yswiriant Antur yn Rhydaman, Irene yn Ohebydd Papur Newydd yn Ne Affrig ac wedi  rhoddi cyfweliad i Nelson Mandela.  Mae Lucie yn byw yn Llandeilo ac Enid yn Llandybie, mae Arwyn yn gweithio adref gyda pheiriannau y Gelli Plant, a Sarah yn cael ei chyflogi yn Yswiriant Antur gyda Margaret Wyn, ei chwaer.  Mae  Mefus a Dai bellach yn Famgu a Thatcu i un-ar-ddeg o wyrion, gyda’r hynaf, Sian, yn ddau ddeg pedwar oed a’r ieuengaf, Eirin Mai, ond yn chwech wythnos oed.
          Mae Capel y Tabernacl, Glanaman yn agos iawn at galon Mefus ac mae wrth ei bodd yn gweld ei theulu yn mynychu’r Ysgol Sul yno. 
Dymunwn bob hwyl i Mefus i’r dyfodol a iechyd da.  Gobeithio ichi fwynhau’r penblwydd arbennig hwn, Mefus, ac hefyd y dathliad o fod yn briod am 56 mlynedd.

No comments:

Help / Cymorth