Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

6.6.11

Cymanfa’r Pasg

Cynhaliwyd Cymanfa Undebol Cwmaman yng Nghapel Bethesda, Glanaman ar fore Sul y Blodau eleni.  Y Llywydd oedd Mrs. Derith Powell, Capel Bethesda, ac fe groesawodd bawb i’r oedfa arbennig hon.  Rhoddodd gyflwyniad arbennig i’n Harweinyddes eleni sef Mrs.Janet Bowen-Jones, Castell Nedd, ac roedd yn ysbrydoliaeth unwaith yn rhagor i’w chael i’n harwain. Ein Horganyddes oedd Mrs.Olwen Richards, Rhydaman a gyflawnodd  ei swydd yn raenus fel arfer.  Darllenwyd rhan o’r Ysgrythur yn ystyrlon iawn gan Nyri Cynningham, Bethel Newydd, a chafwyd gweddi angerddol gan Rhian Jones, Bethesda,.  Ynghanol y Gymanfa, cafwyd eitem gan dair o chwiorydd Capel Bethel Newydd, sef Pat Davies, Carol Howells a Mair Wyn, a dewiswyd darlleniadau gwych ganddynt.  Diolchodd y Parchedig Peter Davies i bawb a gymrodd rhan a  rhoddodd glod arbennig i’n Harweinyddes am dynnu allan o bawb ohonom y canu gorau.  Cafwyd gweddi bwrpasol ganddo i gloi’r oedfa arbennig hon.  Dymuna’r Pwyllgor ddiolch i bawb a’n cefnogodd  eleni eto a gobeithiwn y bydd ein Cymanfa yn mynd o nerth i nerth yn y dyfodol.

No comments:

Help / Cymorth