Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

6.6.11

Penblwydd yn 90 oed

Bydd y 7fed o Fehefin yn ddiwrnod arbennig iawn i Mrs.Sadie Rees, Glanaman am ei bod yn dathlu ei phenblwydd yn 90 oed ar y diwrnod hwnnw.. Yn y llun, gwelir Sadie gyda’i hannwyl ddiweddar ŵr, Terry, a fu’n gefn cadarn iddi dros y blynyddoedd. Ganwyd Sadie ym mwthyn Llwyn Du ar Heol Tircoed, a phan oedd yn ifanc iawn symudodd y teulu lan i Benrhyncoch Uchaf ar y mynydd. Mynychodd SadieYsgoldy’r Mynydd Du gyda’i dwy chwaer am flynyddoedd a thra bu’r Ysgoldy ar agor, roedd hi byth yn colli Te Parti Blynyddol y Mynydd Du. Cafodd fagwraeth yn llawn dysg crefyddol ac y mae’n dyst i hyn hyd heddiw gan ei bod yn hyddysg yn ei Beibl o’r dechrau i’r diwedd ac mae’n gwybod sawl emyn ar ei chôf. Bu’n rhaid iddi adael y Cownti Sgŵl yn ifanc er mwyn helpu ei mam i garco’i brawd bach adre ar y fferm. Er hynny, aeth ymlaen i wneud gwaith clerigol yn Ysbyty Treforus a hoffai weithio yn yr adran ddamweiniau. Daeth yn amser i Sadie briodi ei hannwyl Terry a chawsant dri o blant, sef Eirian, Aelwyn a Derith. Buont yn byw ar y Twyn am gyfnod ac yna yn Rhif 8 Heol Grenig yng Nglanaman am flynyddoedd lawer. Erbyn hyn, mae wedi ymgartrefu yn Rhif 2 Bro Ryan. Mae ganddi deulu crand ac mae wrth ei bodd yng nghwmni’r wyron a’r gor-wyron.

Bu Sadie yn aelod ffyddlon yng nghapel Bethesda, Glanaman, ac yno cafodd y pleser o fod yn Athrawes dosbarth y bobl ifanc yn yr Ysgol Sul ac fe’i gwnaed yn Ddiacones pan oedd ond yn 35 oed. Teg felly oedd iddi gael ei hanrhydeddu gyda’r Fedal GEE am ei gwasanaeth i’w Chapel a chafodd hefyd y fraint o fod yn Llywydd Mudiad Chwiorydd Bedyddwyr Cymru. Mae ganddi stori hyfryd amdani yn mynd i Gaerdydd i fod ar y rhaglen ‘Adnabod y Gair’ gyda dwy o’r ffyddloniaid ym Methesda. Buont yn agos iawn i ennill y brif wobr ond cawsant wobr o £300 i’w Capel gyda chlod uchel gan y beirniaid. Diddorol iawn yw cael bod yng nghwmni Sadie a’i chlywed yn olrhain hanes hen gymeriadau’r ardal am fod ganddi gof aruthrol. Bydd wrth ei bodd gyda’i theulu ar achlysur arbennig ei phenblwydd yn 90 oed. Mwynewch eich diwrnod, Sadie, ac rydym ni, eich ffrindiau, yn dymuno pob bendith a iechyd da i chi i’r dyfodol.

No comments:

Help / Cymorth