Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

12.6.11

Y GYMANFA GANU UNDEBOL

Dydd Sul 17 Ebrill ar Sul y Blodau cynhaliwyd  Cymanfa Ganu Undebol Rhydaman a'r Cylch yng Nghapel Gellimanwydd. Daeth aelodau a ffrindiau o gapeli Gellimanwydd, Y Gwynfryn, Moreia, Seion, Capel Newydd, Bethani, Gosen, Capel Hendre, Caersalem ac Ebeneser ynghyd i gymryd rhan yn y Gymanfa.

Yr Arweinydd oedd Mr Eifion Thomas, Llanelli, Mae Mr Thomas yn adnabyddus drwy Gymru gyfan fel arweinydd Cor Meibion Llanelli ac yn denor dawnus. Cafodd Mr Thomas gefnogaeth broffesiynol medrus Mrs Gloria Lloyd yn ystod y ddwy oedfa.

Roedd Gymanfa'r plant yn y bore am 10.30 ac yna Gymanfa'r oedolion am 5.30 yr hwyr. Cawsom Gymanfa gwerth ei dathlu yng nghwmni Eifion Thomas ac roedd yntau yn cael y gorau allan o'r plant a'r oedolion.

No comments:

Help / Cymorth