Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

30.6.11

Ym mlwyddyn y cofio - Parchg Gomer Roberts

Mae'r côf am Gomer Roberts yn dal yn fyw iawn yn meddyliau bobl "Y Pethe" yn yr ardal yma ac yn enwedig yng Ngosen Llandybie.  Yr ydym yn dal i ryfeddu sut gwnaeth plentyn a oedd yn un o unarddeg o blant ac o gefndir gweithiol cyffredin Iwyddo i'r fath raddau o gofio iddo adael yr ysgol yn 13 oed i weithio yn y gwaith glo Ileol (Pencae). Fe ddaeth yn brif hanesydd yr Enwad a chyhoeddodd tua 40 o lyfrau ac yntau ar yr un pryd yn weinidog prysur.
Mynychodd dosbarthiadau'r WEA ac fe sylweddolodd ei gyd ddisgyblion (a oedd yn cynnwys Amanwy) fod talent aruthrol ganddo ac fe aethant ati i godi arian trwy gyhoeddi a gwerthu Ilyfr o farddoniaeth eu hunain - 0 Lwch y Lofa. Gwnaed elw o £30 a chyda cefnogaeth ei gyd- weithwyr, bu'r arian yn gymorth iddo fynd i'r coleg.

Yr ydym yn Ngosen yn gwybod fod talentau eraill ganddo. Roedd yn un deche (i ddefnyddio gair Ileol) gyda'i ddwylo a chyn iddo farw fe roddodd Mrs. Dilys Dixon (nith Gomer) y gwaith rhyfeddol a welir yn y Ilun fel rhodd i’r eglwys er côf am Gomer. Fel y gwelwch mae Gweddi'r Arglwydd wedi ei cherfio o bren (fretwork) a'i fframio - gwaith Ilaw Gomer ei hun.

Mae'n ddiddorol dyfalu paham y gwnaeth hwn yn yr iaith fain and does na ddim ateb i hynny. Mewn sgwrs a gefais gyda Mrs. Mair Edwards Bala (merch Gomer) dywedodd mai cyn mynd i’r coleg y gwnaeth y gwaith ac yr oedd hyn felly cyn ei fod yn ugain oed! Cefais wybod ganddi hefyd ei fod wedi dysgu ei hunan y grefft o rwymo Ilyfrau. Mae côf gan rhai o'r blaenoriaid ohono yn chwarae'r organ a chadarnhaodd Mair ei fod wedi dysgu ei hunan i chwarae piano pan yn ifanc hefyd.

Gobeithio y bydd y llun a'r cefndir o ddiddordeb i ddarllenwyr Glo Mân gan ei fod yn ehangu ein gwybodaeth a'n gwerthfawrogiad o athrylith mawr -- y diweddar Parchedig Ddr Gomer M.Roberts.

Trefor Evans, Llandybie


No comments:

Help / Cymorth