Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

7.10.11

Clwb Henoed Tycroes

Ar ddydd Mawrth ym mis Gorffennaf aeth llond bws o Glwb yr Henoed ar eu hail drip tymor yr haf. Â’r haul yn tywynnu dechreuwyd ar y daith i dref hynafol Aberteifi. Amcan pennaf y daith oedd ymweld ag arddangosfa yn Oriel Pen-y-dre, sef ‘cardigan’ enfawr wedi ei gweu gan drigolion y dref i ddathlu penblwydd 900 mlynedd Aberteifi.

Ac ni’n siomwyd chwaith. Wedi cyrraedd Aberteifi a chael paned a chacen cawsom sgwrs ddiddorol gan brif gynllunydd a dylunydd y prosiect, Lisa Hellier. Eglurodd Lisa sut y daith y gardigan i fod, sef ymateb i’r alwad i ddathlu’r penblwydd mewn modd arbennig. Ei syniad a’i chynllun hi enillodd y dydd.
Yno yn yr Oriel yn hongian o’r trawstiau, yn ei holl ogonaint, oedd y gardigan enfawr yn mesur rhyw wyth troedfedd o uchder a thua deuddeg troedfedd o led ac yn cynnwys dwy lewys enfawr. Yn ffodus gellid cerdded o amgylch y gardigan gan rhyfeddu ar ei chefn a’i ffrynt.

Wedi i pawb eistedd yn gyfforddus dechreuodd Lisa adrodd hanes y gardigan o’r dechrau cyntaf hyd y pwyth olaf. Prosiect cymdeithasol oedd â phawb yn ymgynnull ar nos Sul i weu. Roedd yma elfen gref o rannu sgiliau ac fe welwyd y dref mewn golwg newydd. Daeth nifer o wragedd ynghyd i ddysgu gweu heb batrwm i gyfleu tirwedd a threftadaeth y dref hynafol hon. Mae’r cardigan yn cynnwys nifer helaeth o wahanol batrymau o wau, gyda’r pwyth ‘cêbl’ yn bwysig drwy gydol y gwaith er mwyn nodi gwaith rhaffau ar y llongau a hefyd clymau Celtaidd yr Hen Oesoedd.
Dengys y gardigan yr hen Gastell, Cwrwglau i bysgota am eog a llong yr ‘Albion’ a hwyliodd o Aberteifi yn 1819 i Ganada. Gwelir hefyd Eglwys y Santes Fair ynghyd â llawer o adeiladau hanesyddol y dref.
Dros y 900 mlynedd mae’r dref wedi magu cymeriadau nodedig a dewisodd y gweuwyr eu nodi yn y gwaith. Yn eu mysg, Roger De Montgomery a fu farw yn 1094, cyn sefydliad y dref; Tywysoges Nest a fu’n byw yn y castell wedi ei phriodas â Stephen y Castellydd. Ymwelodd Owain Glyndwr â’r dre ac ymosododd ar y castell yn 1405; teithiodd Henry Tudor drwy Aberteifi ar ei daith i Bosworth yn 1485. Ac yna i’r presennol y ddau Brifardd, Ceri Wyn Jones a’r diweddar Dic Jones, cyn-Archdderwydd Cymru ac un o feirdd pwysicaf y genedl
Un ansoddair sy’n addas i ddisgrifio’r gampwaith yw ‘unigryw’. Mae’n anodd cyfleu mawredd a chywreinrwydd y gwaith. Rhaid ei weld i amgyffred yr holl waith y bu wrth gynllunio a dylunio’r prosiect. Y gobaith yw cael cartref parhaus i’r gardigan. Bydd yn cael ei harddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Barri a’r Fro y flwyddyn nesaf.
Defnyddiaf gwpled y Prifardd Dic Jones i grynhoi’r ymweliad:
‘A wêl y gamp geilw i go
 Swyn y gymdeithas honno.’

Mary Rees

No comments:

Help / Cymorth