Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

10.10.11

Lleisiau’r Cwm a Cantata yn cefnogi Bobath Cymru

Gwelir Endaf Price, cynrychiolydd Bobath Cymru, yn derbyn siec wrth Catrin Hughes, trefnydd y Cabare ac arweinydd Cantata a Lleisiau'r Cwm

 Ar Nos Wener Gorffennaf 15fed, trefnwyd noson Cabare gan Gôr Merched Lleisiau'r Cwm o Ddyffryn Aman, a Chôr Merched Cantata o Lanelli. Prif fwriad y noson oedd dathlu 15 mlynedd o fodolaeth Lleisiau'r Cwm a dathlu llwyddiant Cantata yng Nghystadleuaeth Côr Cymru eleni wrth gipio teitl Côr Merched Cymru am yr ail waith, a chael eu hethol yn gôr mwyaf poblogaidd y gwylwyr. Roedd y noson yn llwyddiant ysgubol, a gwerthwyd pob tocyn ymhell cyn yr achlysur. Arweinydd y noson oedd Heledd Cynwal, sydd wedi cydweithio'n agos gyda'r ddau gôr yng ngystadleuaeth Côr Cymru S4C dros y blynyddoedd.  Perfformiwyd caneuon o'r sioeau gan y ddau gôr - caneuon adnabyddus fel Big Spender, All that Jazz, Hirddydd Haf a Allai'm peidio dy garu di, a chafwyd eitemau gan ddawnswyr o Ysgol y Strade a fu'n llwyddiannus yn Eisteddfod yr Urdd eleni.
        Y cyfeilydd gwâdd oedd Richard Vaughan, a 'r sielydd oedd Nerys Clarke a diolch i'r ddau am eu cyfraniad hwythau. Cynhaliwyd ocsiwn hefyd ar y noson, ac ymhlith yr eitemau yn yr ocsiwn oedd taith 2 awr mewn balwn awyr poeth dros Ddyffryn Tywi, pel rygbi yn rhoddedig gan Rhys Priestland wedi ei lofnodi gan garfan y Scarlets 2012, hamper harddwch, a diwrnod yn Machynys. Yr ocsiwnier oedd Glynog Davies Brynaman. Codwyd £2,000 o bunnoedd rhwng y raffl a'r ocsiwn, ac mae'r elw yn mynd i Bobath Cymru (Uned Therapy Cymru sy'n cynnig arbenigedd mewn ffisiotherapi i blant sy'n dioddef o Cerebral Palsy).
        Diolchwyd i bawb am eu cefnogaeth gan Endaf Price ar ran Bobath Cymru. Fel Llywydd Anrhydeddus Côr Merched Lleisiau'r Cwm, fe ddiolchodd Heddyr Gregory i bawb am eu haelioni a'u caredigrwydd, gan ddymuno llwyddiant pellach i'r ddau gôr yn y dyfodol. Ar ddiwedd y noson, ymunodd Cantata a Lleisiau'r Cwm i ganu Anthem o Chess,ac roedd y gynulleidfa ar eu traed.  Yn yr ail hanner anffurfiol, fe berfformiodd Fat Barry's Soul Band.  Hoffai Catrin, Cantata a Lleisiau'r Cwm ddiolch i bawb a fu’n cyfrannu mewn unrhyw ffordd tuag at lwyddiant y noson.

No comments:

Help / Cymorth