Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.
Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32 edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk
Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32 edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk
15.10.11
Merched y Wawr Brynaman
Dechreuodd y tymor newydd mewn steil , Nos Wener , Medi 9fed, gyda gwledd o ddanteithion wedi eu paratoi gan aelodau’r pwyllgor. Fel arfer, mae llawer o bethau i’w trafod ar noson gynta’r tymor, a braf oedd gallu croesawu rhai aelodau newydd i’r cyfarfod hefyd cyn estyn croeso cynnes i’r wraig wâdd, sef Mrs. Einir Jones o Rydaman.Croesawyd hi i’n plith gan y Llywydd, Buddug Williams, ac fel arfer, fe gafwyd amser diddig yn ei chwmni – bu’n sôn wrthym am rai o’r profiadau sydd wedi dod i’w rhan fel gwraig i weinidog. Wel, am ddechrau da i’r tymor. Llond bol o chwerthin iach, cyn llenwi’n boliau wrth y byrddau. Mae rhaglen amrywiol wedi ei pharatoi ar gyfer y tymor, ac fe fyddai’n braf gallu croesawu mwy o aelodau newydd. Bydd y cyfarfod nesaf Nos Wener, Hydref 14eg, yn Neuadd yr Henoed am 7 o’r gloch. Y gwestai y noson honno fydd Nia Evans o gwmni “Bodlon”, Llanarthne. Beth am ymuno â ni?
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment