Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

31.12.11


Yn ddiweddar yng ngwesty'r Mountain Gate yng Nhycroes cynhaliwyd noson i anrhydeddu ac i anrhegu Jean Huw Jones am ei gwasanaeth enfawr i'r gymuned leol ac i Gymru gyfan mewn gwahanol feysydd. Cafwyd geiriau o werthfawrogiad i Jean yn rhifyn Hydref o'r Glo Man felly does dim eisiau ail­adrodd yr hyn sydd eisoes wedi ei ddweud ond rhoi tipyn o hanes y noson.

Daeth dros 90 o bobl ynghyd, rhai yn bobl leol ac eraill wedi teithio cryn bellder – yn adlewyrchiad o ddiddordebau eang Jean. Cafwyd noson fendigedig a chyfle i fwynhau pryd o fwyd hyfryd yng nghwmni ffrindiau. Wedi'r gwledda, a geiriau o deyrnged, cyflwynwyd plac o lechen ac arno englyn o waith y Prifardd Robat Powell wedi ei gerfio gan Ieuan Rhys i Jean.

Gwylio mae hon y glo man - yn y cwm
A'r rhai caeth wrth bentan.
Ac a'n serch fe wisgwn Sian
Yma, rhwng breichiau'r Aman.

Gan bod yna dri prifardd yn bresennol nid syndod oedd i ddarn arall o farddoniaeth gael ei gyflwyno hefyd ond nid yn unig i Jean y tro hwn ond iddi hi a'r un a fu'n gefn iddi dros y blynyddoedd, sef ei gwr Huw. Mae'r darn yn waith un a fu'n ffrind iddynt dros gyfnod maith ac a oedd yn adnabod y ddau i'r dim, fel sy'n amlwg iawn yn y geiriau, sef y Prifardd John Gwilym Jones.

Jean a Huw

Mae dihareb yn dweud na welwch chin unman
Anrhydedd i broffwyd gan ei bobol e'i hunan,
ond mae heno yn eithriad, pan roddir i Jean
anrhydedd a chlod gan ei hardal ei hun.

Mewn capel a neuadd, mae'n llanw ei Ile.
mewn pwyllgor, ar lwyfan, o'r Gogledd i'r De;
i fyd y ddawns werin rhoes dalent a dawn,
a pherlau'i darlithiau yn lliwgar a llawn.

Mae'i hegni yn dala, a gran ar ei gwaith,
ac fe sticith hon 'da chi hyd derfyn pob taith,
mae'n hael ei gwasanaeth i'r Betws a'r byd,
ple gwelwyd ei thebyg drwy Gymru i gyd?

Ond fe garwn ddweud gair bach cyn tewi â 'nghan,
mae 'na un peth yn extra yn perthyn i Sian:
tu ôl i bob menyw fe welwch chi ddyn
nad yw am gael spotlight byth arno fe'i hun.

Mae Sian yn arbennig o ffodus o'i gwr
sy'n gweithio'n y dirgel yn hollol ddi-stwr;
beth bynnag y panic a wynebai ei wraig,
ynghanol pob helbul roedd Huw fel y graig.

Wrth fynd tua'r 'Steddfod bob blwyddyn roedd Huw
 yn gweu drwy'r holl draffic fel sant wrth y llyw,
fe  gariai fwy lawer o wisgoedd o hyd
na bois Marks and Spencer's drwy'u bywyd i gyd.

Pan fyddai'r Archdderwydd fel ceiliog yn grac
tawelai Huw'r storom a'i wen yn y bac;
ac os yw Mountbatten yn cerdded 'da'r Cwin,
mae gwell boi na'r Diwc yn gofalu am Jean.

Diolch i Jean am ein cadw mewn trefen,
ond diolch i Huw am fod iddi yn gefen;
os mai hi oedd yn amlwg, erbyn diwedd y gân,
os bu'n Feistres y Gwisgoedd, mae na fishtir ar Sian

No comments:

Help / Cymorth