Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

1.1.12

Merched y Wawr - Cwis Cenedlaethol


Fel arfer, aeth criw bychan o aelodau i gynrychioli cangen Merched y Wawr Brynaman yn y Cwis Cenedlaethol, Mis Tachwedd. Cynhaliwyd cystadleuaeth Rhanbarth Gorllewin Morgannwg, yn Swit Lewis Jones yng Ngorseinon. Roedd 15 tim yn cymryd rhan ac fe wnaeth Tim y Gwter Fawr yn dda iawn, gan ennill y wobr gyntaf, drwy sgorio 72 allan o 80. Yn ogystal, daeth newyddion ychwanegol eu bod wedi dod yn ail yn genedlaethol - 1 mare yn unig yn llai na'r buddugwyr, sef tim Penrhosgarnedd. Cyhoeddwyd hyn ar Radio Cymru yn hwyrach ar noson y cwis


No comments:

Help / Cymorth