Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

3.1.12

'Stafell Fyw Caerdydd


Tamara Puw (Trysorydd), W.E.O., Thelma Jones (Cadeirydd), Fred Davies (Ysgrifennydd).

Yn ddiweddar dan nawdd Cyngor Eglwysi Rhyddion Brynaman, daeth y Bnr. Wynfford Elis Owen i siarad am brosiect 'Stafell Fyw Caerdydd, sef y Ganolfan er mwyn adfer or-ddibyniaeth ar alcohol, cyffuriau (ac ymddygiad caethiwus arall) a agorwyd yn ddiweddar yn Heol Richmond, Caerdydd.
Profiad arbennig i'r rhai oedd yno oedd clywed am ei frwydyr ef ei hunan yn erbyn yr union ffactorau a'i edmygu am iddo lwyddo i'w dynnu ei hunan yn ol o ymyl y pydew dwfn hwnnw gan agor y drws i fywyd newydd a chychwyn ar y gwaith o geisio helpu eraill i wneud yr un peth.
Ar ddiwedd y noson cyflwynwyd siec iddo fel cyfraniad at waith y 'Stafell Fyw.

No comments:

Help / Cymorth