Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

15.2.12

Clwb Pel Rwyd Dyffryn Aman

Yn ddiweddar aethpwyd â 10 aelod o dîm pêl-rwyd Dyffryn Aman i lawr i Abertawe i Sglefrio Iâ. Cafodd y merched amser wrth eu bodd wrth fwynhau ar yr iâ, yn ogystal â chael amser da yn y ffair hefyd. Hyfryd oedd clywed cymaint o Gymraeg gan y merched gan gynnwys ambell gan ar y bws mini ar y ffordd adref!  Hoffai’r merched ddiolch yn fawr iawn i Chantelle am eu hyfforddi dros y tymor, a phob lwc iddi yn y dyfodol. Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y flwyddyn newydd

No comments:

Help / Cymorth