Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

15.2.12

CYNLLUNIAU CHWARAE ‘HWYL A SBRI’ HANNER TYMOR - £10 yn unig!!

Y mae Menter Bro Dinefwr yn rhedeg Cynllun Chwarae adeg hanner tymor eleni yn Rhydaman.
Bydd Clwb ‘Hwyl a Sbri'r Aman’ yn llawn o weithgareddau ac yn cael ei gynnal rhwng 9.00am a 5.00pm drwy gydol hanner tymor 13 Chwefror - 17 Chwefror 2012 yn Neuadd Gelli Manwydd, Rhydaman. Bydd y Clwb, a fydd yn cael ei redeg drwy gyfrwng y Gymraeg yn agored i blant 8-12 oed. Oherwydd mai nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael, mae’n bwysig archebu lle ar gyfer eich plentyn yn fuan i osgoi siom.
Bydd y Clwb yn cynnig cyfleoedd chwarae diogel a gofal plant proffesiynol a chynigir gweithgareddau megis celf a chrefft, chwaraeon, gemau, drama, coginio etc. Bydd y cyfan o dan oruchwyliaeth staff cymwysedig a fydd wedi cael gwyriad manwl gan y Biwro Cofnodion Troseddol (CRB). Cost ddyddiol y Cynllun fydd £10.00 y plentyn a disgwylir i blant ddod â phecyn bwyd eu hunain ar gyfer cinio.
Os oes gennych gwestiynau pellach cysylltwch â Lynette Thomas ym Menter Bro Dinefwr ar (01558) 825336.


No comments:

Help / Cymorth